Toriadau 'annheg' i'r Coleg Cymraeg: Apêl i Kirsty Williams

Mae ymgyrchwyr iaith wedi collfarnu'r toriadau i'r Coleg Cymraeg a gyhoeddwyd heddiw gan alw ar i'r Llywodraeth eu gwrth-droi drwy gyllido'r Coleg yn uniongyrchol. 

Ym mis Chwefror eleni, cyhoeddwyd tro-pedol rhannol ynghylch y toriadau i Gyngor Cyllido Addysg Uwch gyda thoriad o £11 miliwn, neu wyth y cant o'i gyllideb, yn hytrach na'r £42 miliwn o gwtogiad a gyhoeddwyd yn wreiddiol. Fodd bynnag, mae'r Coleg Cymraeg nawr yn wynebu toriad o draean i'w gyllideb. 

Dywedodd maniffesto'r Democratiaid Rhyddfrydol yn etholiadau'r Cynulliad eleni y byddant yn: "Ehangu cylch gwaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gynnwys y sector Addysg Bellach i gefnogi cydweithredu rhwng colegau Addysg Bellach, a rhwng y sectorau Addysg Bellach ac Addysg Uwch, wrth ddatblygu a darparu deunyddiau addysgu a dysgu drwy'r Gymraeg, a diogelu'i gyllid."  

Mewn llythyr at yr Ysgrifennydd Addysg newydd Kirsty Williams, dywed swyddogion Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: 

"... rydym yn siomedig iawn clywed bod y Cyngor Cyllido wedi cyhoeddi cwtogiad o draean i gyllideb y Coleg Cymraeg, sy'n llawer iawn mwy na'r toriad o oddeutu wyth y cant sy'n wynebu'r sector yn gyffredinol. Mae'r toriadau gwbl anghymesur ac yn groes i ymrwymiad eich plaid yn yr etholiad i 'ddiogelu'i gyllid'.... 

"Galwn felly arnoch chi a'r Llywodraeth newydd dderbyn cyfrifoldeb uniongyrchol am ddatblygu'r Coleg Cymraeg gan ei gyllido'n uniongyrchol er mwyn diogelu ei gyllid. Ac, fel ymrwymodd eich plaid yn yr etholiad, galwn arnoch hefyd i ddatblygu rôl y Coleg hefyd trwy roi iddo gyfrifoldeb dros addysg bellach a galwedigaethol a'r adnoddau i gyflawni'r gwaith."