Toriadau i Twf: angen adfer gwasanaeth cenedlaethol

Daeth ymgyrchwyr ynghyd i alw ar y Llywodraeth i adfer gwasanaeth sy'n annog teuluoedd ledled Cymru i ddefnyddio'r Gymraeg ar faes Eisteddfod yr Urdd heddiw.  

Mae lefelau trosglwyddo'r iaith Gymraeg rhwng rheini a'u plant yn gymharol isel ac yn cyfrannu at gwymp yn nifer y siaradwyr Cymraeg. Fodd bynnag, yn ddiweddar, penderfynodd y Llywodraeth ddiddymu prosiect Twf, oedd yn annog, yn darparu adnoddau, ac yn cynorthwyo teuluoedd i ddefnyddio'r Gymraeg.  Yn ei le, sefydlwyd prosiect Cymraeg i Blant, sy'n cael ei redeg gan y Mudiad Meithrin, gyda chyllideb o £200,000 yn llai ar gyfer y gweithgareddau. Mae gan Gymdeithas yr Iaith ddeiseb sydd yn galw ar y Llywodraeth i wrth-droi toriadau i'r cynllun.  

Un oedd yn cefnogi'r gwrthdystiad ar y maes yw Rebecca Roberts, mam 30 oed o Brestatyn a ddywedodd 

"Fel Cymraes yn byw mewn ardal go Saesneg, roedd yn anodd i fi dod o hyd i weithgareddau cyfrwng Cymraeg. Dw i'n siarad Cymraeg o hyd gydag Ellie, ac mae'n bwysig i fi bod hi'n clywed y Gymraeg tu allan i'r . Doedd y cylch ti a fi lleol dim yn addas  - gormod o blant mawr yn rhedeg o gwmpas! - a dim ond unwaith bob wythnos oedd y sesiynau stori a chân dwyieithog yn y llyfrgell.  

"Dechreues i fynychu'r sesiynau Twf yn fy ysgolion lleol. Roedd y gweithgareddau'n berffaith i fabi bach ac roedd yn wych i mi gael cyfle i siarad gyda mamau eraill. Cefais gyfle i ail-gysylltu gyda hen ffrindiau ysgol ac i wneud ffrindiau newydd. Cawsom gymaint o brofiadau hwyl, a wnes i wir colli'r sesiynau unwaith i fy nghyfnod mamolaeth dod i ben! Roedd yr arweinydd yn berson mor glê​n a chroesawgar, ac mor dda am roi cymorth i bobl oedd yn dysgu Cymraeg. Mae'r un peth yn wir am bob sesiwn Twf fues iddo. Mae'n bechod mawr bod nhw wedi gorffen, o safbwynt personol ac o safbwynt ieithyddol. Mae angen mwy o wasanaethau tebyg i Twf, nid llai!" 

Dywedodd David Williams, aelod o grŵp addysg Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, oedd yn siarad yn y brotest: 

"Rydyn ni'n galw ar Lywodraeth Cymru i wrthdroi eu penderfyniad a rhoi'r £200,000 yn ôl. Bydd y llywodraeth am ddweud mai penderfyniad y Mudiad Meithrin yw hyn neu fod bai ar Lywodraeth San Steffan am gwtogi'r arian sy'n dod i Gymru, ond penderfyniad Llywodraeth Cymru yw e ar ddiwedd y dydd. Mae cyfle nawr, yn ystod yr Eisteddfod, i ymateb i'n galwad a gwneud y cam bach pwysig yma gan wrthdroi eu penderfyniad ac adfer gwasanaeth Twf dros Gymru gyfan." 

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn annog pobl i arwyddo deiseb yn erbyn y toriadau ar y maes ac ar eu gwefan: http://cymdeithas.cymru/cymraegiblant