Toriadau pellach i S4C - Cymdeithas yn collfarnu

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi beirniadu'r newyddion y bydd toriadau ychwanegol o £700,000 i S4C.   
 
Heddiw, cyhoeddodd Llywodraeth Prydain y bydd gan S4C £350,000 o arian cyfalaf ychwanegol ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Ond mae Adran Ddiwylliant Llywodraeth Prydain eisoes wedi awgrymu eu bod hefyd am dorri eu grant refeniw i'r sianel o £700,000 o fis Ebrill ymlaen. Mae hynny'n golygu bod cyfraniad refeniw yr Adran Ddiwylliant yn gostwng o £6.7 miliwn eleni i £6 miliwn dros y 12 mis nesaf. Ers 2010, mae cyllideb S4C eisoes wedi cael ei thorri o 40%.   

Meddai Carl Morris, cadeirydd grŵp digidol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:  
 
"Mae'r datganiad heddiw yn drychinebus i S4C. Mae'r Llywodraeth yn ceisio sbinio'r toriadau pellach fel newyddion da, ond dydyn nhw ddim yn gallu cuddio'r gwirionedd. Mae'n edrych fel bod y toriad o saith can mil yn mynd yn ei flaen – toriad sylweddol ar ben toriadau anferthol dros y 7 mlynedd diwethaf. Mae hefyd yn edrych fel eu bod yn ceisio parhau gyda thoriadau pellach o 25% i'r grant dros y blynyddoedd nesaf. Yn wir, mae'n debyg bod rhywfaint o'r benthyciad newydd i'r sianel yn ddibynnol ar y BBC yn traflyncu'r sianel yn bellach.   
 
"Nid yw S4C na darlledu yng Nghymru yn gyffredinol yn saff yn nwylo San Steffan. Datganoli darlledu  yw'r unig ateb yn wyneb hyn oll. Mae mwy a mwy o bobl yn ymuno â'n hymgyrch i wrthod talu eu trwyddedau teledu, a bydd hynny'n parhau nes bod darlledu yn ei gyfanrwydd wedi ei ddatganoli i Gymru a bod fformiwla ariannu ddigonol a theg mewn statud yn ei lle."