Toriadau pellach i S4C? Rhybudd i Maria Miller

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi rhybuddio Llywodraeth Prydain nad oes modd gwneud toriadau pellach i S4C, cyn i’r adolygiad gwariant cynhwysfawr gael ei gyhoeddi’r wythnos nesaf.

[CLICIWCH YMA I ANFON NEGES YN GWRTHWYNEBU TORIADAU PELLACH I S4C]

Mae'r mudiad iaith wedi gofyn i Maria Miller a yw hi wedi neu’n bwriadu ymgynghori ag arbenigwyr yng Nghymru, fel Comisiynydd y Gymraeg, ynghylch unrhyw benderfyniad i dorri cyllideb S4C ymhellach.

Mewn llythyr a anfonwyd rhai dyddiau yn ol at Maria Miller, dywedodd Greg Bevan llefarydd darlledu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Dangosodd Llywodraeth Prydain agwedd gwbl sarhaus tuag at y Gymraeg a gwylwyr S4C pan gyhoeddwyd y newidiadau cyllidol i S4C yn 2010. Penderfynoch gwtogi 94% o’ch cyfraniad i gyllideb S4C, toriad a oedd yn llawer mwy na’r toriadau a roddwyd i gyrff darlledu iaith Saesneg ym Mhrydain. Dymunwn ofyn i chi am eich bwriadau ynghylch ymgynghori â Chomisiynydd y Gymraeg, Meri Huws, sydd â’r prif gyfrifoldeb am oruwchwyliaeth dros y Gymraeg, cyn gwneud penderfyniadau pellach? Hefyd, a fwriadwch gysylltu â Phwyllgor Arbenigwyr Siarter Cyngor Ewrop ar gyfer Ieithoedd Rhanbarthol neu Leiafrifol, sydd yn y broses o arolygu’r iaith Gymraeg ar hyn o bryd? Cofier bod Prydain wedi arwyddo dogfen gyfreithol yn sicrhau darpariaeth Cymraeg yn y cyfryngau.

“S4C yw’r unig sianel iaith Gymraeg yn y byd. Gofynnwn i chi Weinidog i beidio â gwneud toriadau pellach i gyllideb S4C. Byddai toriadau pellach i grant pitw y Llywodraeth yn peryglu bodolaeth y sianel. Credwn y dylech chi osgoi cyrraedd sefyllfa lle mae cyllideb S4C yn dibynnu yn gyfan gwbl ar benderfyniadau’r BBC gan roi annibyniaeth y sianel mewn peryg Galwn arnoch i osod fformiwla ariannu statudol a fyddai’n gosod gwaelodlyn i gyllideb S4C, a hynny erbyn yr adolygiad gwariant cynhwysfawr.”