Tyfu nid Torri yn galw ar gynghorwyr Gwynedd i wneud safiad gwleidyddol

Ymgasglodd ymgyrchwyr 'Tyfu nid Torri' yng Nghaernarfon mewn protest gweledol er mwyn ymwrthod â'r toriadau arfaethedig gan Gyngor Gwynedd fis Mawrth. Mae eu hymgyrch 'Tyfu nid Torri' yn gobeithio dwyn perswâd ar gynghorwyr Gwynedd i wneud safiad gwleidyddol a gwrthod y cyllid i’r Cyngor ar gyfer y flwyddyn nesaf a fydd yn cael ei chyflwyno ger bron y Cyngor gan y cabinet yng nghyfarfod llawn y Cyngor fis Mawrth.

Gosodwyd esgidiau ymarfer corff gan yr ymgyrchwyr ar Y Maes yng Nghaernarfon ar ddiwrnod cenedlaethol y llyfrgell er mwyn dangos pa mor werthfawr yw'r gwasanaethau cyhoeddus yng Ngwynedd. Roedd yr esgidiau ymarfer corff yn cyflwyno neges i’r cynghorwyr - ‘ni fyddem angen ein hesgidiau ymarfer corff os bydd y toriadau yn mynd yn eu blaen’.

Meddai Bethan Ruth, Swyddog Maes y Gogledd Cymdeithas yr Iaith: “Arwenir yr ymgyrch yn bennaf gan bobl ifanc y sir ac maent fel pobl ifanc yn pryderu am y toriadau sy’n debygol o’u heffeithio nhw yn bennaf. Dewiswyd gosod yr esgidiau ymarfer corff am eu bod yn weledol yn cynrychioli’r bobl ifanc yma. Rydym yn bwriadu cyflwyno'r esgidiau ymarfer corff i'r cynghorwyr pan fyddent yn mynd i'r cyfarfod cyngor fis Mawrth gan obeithio y byddent yn pleidleisio wrth ystyried barn eu hetholwyr”.

Ychwanegodd myfyrwraig y chweched dosbarth, Lois Llywelyn, Cadeirydd Cell Coleg Meirion-Dwyfor Pwllheli: “Mae angen gobaith i bobl ifanc Gwynedd a byddai cymryd rhan yn y penderfyniad o dorri gwasanaethau gwerthfawr yn anfoesol ac yn dilysu ymdrechion eidiolegol y Torïaid i beidio â threthi busnesau mawr a chosbi’r bobl fwyaf bregus mewn cymdeithas. Mae angen i'r cynghorwyr gofio eu bod yn cynrychioli’r rheiny sy'n eu hethol nhw, yn hytrach nag ymdrin â'r toriadau fel rhywbeth y maent yn gorfod ei wneud yn weinyddol. Galwn ar gynghorwyr Gwynedd i roi arweiniad i Gynghorau Sirol eraill yng Nghymru i wneud yr un fath hefyd ac i roi gobaith a chyfiawnder i'w hetholwyr.”

Mae'r ymgyrch Tyfu nid Torri yn cydweithio gydag ymgyrchwyr eraill sy'n gwrthwynebu'r toriadau gan gynnwys mudiadau ieuenctid, ymgyrchwyr sy'n erbyn cau llyfrgelloedd y sir ac ymgyrchwyr Sgrech Gwynedd.