Ymateb i'r Ddeddf Iaith Newydd: 'Cam mawr yn ôl'

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi beirniadu'n hallt gynigion Llywodraeth Cymru i ddiwygio Mesur y Gymraeg a gyhoeddwyd heddiw. 

Wrth ymateb i'r papur gwyn, meddai Heledd Gwyndaf, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith: 

"Byddai'r cynigion yma gan Lywodraeth Cymru yn troi'r cloc yn ôl i ddyddiau Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Rhwng diddymu Comisiynydd y Gymraeg, lleihau gallu'r cyhoedd i gwyno'n effeithiol a gwanhau'r pwerau i orfodi'r Safonau, byddai hyn yn gam mawr yn ôl. Mae angen corff annibynnol i hyrwyddo'r Gymraeg hefyd, ond nid drwy wanhau'r gyfundrefn rheoleiddio mae gwneud hynny. Mae angen un pencampwr cryf i ganolbwyntio ar reoleiddio, ac mae angen mwy o reoleiddio, nid llai. 

"Drwy ymgynghori gyda chyrff yn unig yn hytrach na gyda defnyddwyr y Gymraeg, mae'n amlwg bod y gweision sifil yn gwrando ar gyrff a chwmnïau ar draul llais y bobl. Mae angen Bil er lles y bobl, yr iaith a'i defnydd, nid Bil er lles y biwrocratiaid fel hyn. Byddai'n well iddyn nhw beidio deddfu o'r newydd o gwbl na throi'r cloc yn ôl fel hyn a gwanhau ein hawliau. Byddwn ni'n sefyll lan yn erbyn hyn, ac rydyn ni'n galw ar bobl Cymru i wrthwynebu hyn hefyd." 

"Mae cynigion y Llywodraeth yn llanast llwyr. Ar yr un llaw roedd Alun Davies bore yma yn dweud y byddai am gynnwys y sector preifat o dan Safonau, ond mae'r papur gwyn yn nodi'n bendant nad oes bwriad gyda'r Llywodraeth i wneud hynny." 

Bydd y mudiad yn cynnal dadl am gynlluniau drafft y Llywodraeth yn nes ymlaen heddiw gyda'r Bargyfreithiwr Gwion Lewis, Gweinidog y Gymraeg Alun Davies AC a Chomisiynydd y Gymraeg Meri Huws.