Ymgyrchwyr iaith Māori ar daith yng Nghymru

Mae ymgyrchwyr a hyrwyddwyr yr iaith Māori o’r grwp Te Panekiretanga o te Reo (Ysgol am Ragoriaeth Iaith) o Aotearoa, Seland Newydd wedi ymweld ag Eisteddfod yr Urdd heddiw (dydd Mawrth, 30ain Mai) fel rhan o’u taith i ymweld â chymunedau iaith bychain ar draws Ewrop.

Mae’r grŵp o 40 yn ymweld â’r Alban, Iwerddon a Gwlad y Basg yn rhan o’i daith, ac yn cyfarfod nifer o grwpiau iaith gwahanol y cymunedau hynny. Perfformiodd y grŵp yr Haka, dawns lafar draddodiadol pobl Māori, a’i chyfansoddwyd yn arbennig ar gyfer y daith hon, mewn digwyddiad gan Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar faes Eisteddfod yr Urdd.

Meddai Timoti Karetu, un o sylfaenwyr y grŵp Te Panekiretanga o te Reo ac un o drefnwyr y daith,

“Rydym yma er mwyn arsylwi cenedl a phobl eraill sydd, fel y ni, yn ymrwymedig i oroesiad ein hieithoedd brodorol dros y blynyddoedd i ddod. Mae ymgyrchwyr dros y Gymraeg wedi bod ar flaengad y mudiad iaith, mudiad yr ydym ni hefyd yn rhan ohono. Mae’n naturiol felly, ein bod yn ymweld er mwyn arsylwi, dysgu a rhannu profiadau, cyn dychwelyd gyda syniadau newydd i’w rhoi ar waith gartref. Efallai bod gennym brofiadau a syniadau yr hoffech chi eu mabwysiadu hefyd. Mae’r holl syniadaeth a phrofiadau tebyg sydd ganddom fel rhan o gymunedau iaith bychain yn bwysig i’w rhannu.”

Mae’r ymweliad yma yn rhan ehangach o waith Cymdeithas yr Iaith yn cydweithio ag ymgyrchwyr iaith rhyngwladol i gefnogi a rhannu gwybodaeth ynglŷn ag ymarferion da i gyfrannu tuag at ddyfodol llesol i ieithoedd a’u lleiafrifwyd.

Meddai Tomos Jones, Swyddog Rhyngwladol y Gymdeithas: “Mae cydsefyll a rhannu gwybodaeth gydag ymgyrchwyr iaith rhyngwladol yn hynod o bwysig i ymgyrchwyr y Gymdeithas. Mae’r frwydyr barhaus i sicrhau dyfodol gynaliadwy i’r Gymraeg yn frwydyr sydd yn gyffredin i sawl un o gymunedau ieithyddol y byd. Trwy undod â chydweithio gyda’n cyfeillion rhyngwladol mae’n bosibl dysgu a dod i sylweddoli ein bod yn brwydro gyda’n gilydd - nid ydym ar ben ein hunain fel rhan o’r mudiad i sicrhau cydnabyddiaeth a chyfiawnder ieithyddol. Ni allwn ddibynnu ar eraill i gyflawni hynny, gallwn ond ymgyrchu gyda’n gilydd i sicrhau dyfodol disglair i amrywiaeth ieithoedd y byd, gyda’r Gymraeg yn eu plith.”