Ymgyrchwyr yn cynnal gwylnos dros 'addysg Gymraeg i bawb'

Mudiad yn galw am amserlen ar gyfer disodli cymwysterau Cymraeg Ail Iaith  

Mae grŵp o ymgyrchwyr wedi cynnal gwylnos er mwyn pwyso am sicrwydd ac amserlen ar gyfer disodli'r cymwysterau Cymraeg Ail Iaith gydag un cymhwyster i bob disgybl.  

Wythnos diwethaf mewn cyfweliad ar raglen newyddion S4C, dywedodd Gweinidog y Gymraeg y bydd y system addysg yn 'symud at un continwwm' fel bod 'pob un plentyn' yn 'gallu bod yn rhugl yn Gymraeg'. Cyfeiriodd at y cyfnod o ddiwygio'r cymhwyster Cymraeg ail iaith fel 'cyfnod pontio' a fydd yn dod i ben yn 2021 gan awgrymu y bydd y cymwysterau Cymraeg ail iaith yn cael eu disodli gydag 'un ffrwd' erbyn y dyddiad hwnnw.   

Mewn gohebiaeth rhwng Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a'r Gweinidog Alun Davies yn dilyn y cyfweliad, cynigiodd y Gweinidog drafodaethau pellach ond methodd â chadarnhau y bydd un cymhwyster Cymraeg cyfun i bob plentyn yn cael ei sefydlu yn lle'r cymwysterau ail iaith presennol.    

Meddai Toni Schiavone, cadeirydd grŵp addysg Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:   

"Rydyn ni'n colli cwsg achos bod wyth deg y cant o'n pobl ifanc yn cael eu hamddifadu o'r Gymraeg bob blwyddyn. Rydyn ni'n sôn am saith mil ar hugain bob blwyddyn sydd ar eu colled. Roedden ni wedi croesawu sylwadau'r Gweinidog yn y cyfweliad fel cam ymlaen, ond yn yr ohebiaeth ers hynny dyw e heb gadarnhau y bydd y cymwysterau Cymraeg ail iaith yn cael eu dileu. Ar hyn o bryd felly, polisi'r Llywodraeth yw dechrau cyflwyno'r cwricwlwm newydd yn 2018 ond gan barhau â'r cymhwyster TGAU Cymraeg Ail Iaith, cyfundrefn sy'n amddifadu 80% o'n pobl ifanc o'r iaith.   

"Mae angen codi disgwyliadau pob un yn ein gwlad, felly mae angen dileu'r cymwysterau ail iaith a chreu un cymhwyster Cymraeg i bob disgybl yn eu lle. Mae'n rhaid gwneud y penderfyniad yna cyn gynted â phosibl fel bod awdurdodau yn gallu bwrw ymlaen gyda'r gwaith o lunio'r cymhwyster newydd. Mae angen pwyslais hefyd ar sicrhau cynnydd sylweddol a chyflym yng nghanran y gweithlu sy'n dysgu drwy'r Gymraeg."   

Bydd rali flynyddol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, sy'n cael ei chynnal ddydd Sadwrn 8fed Hydref yn Llangefni, Ynys Môn, yn canolbwyntio ar alw am addysg Gymraeg i bawb. Ymysg y siaradwyr bydd y Prifardd Cen Williams, yr actor John Pierce Jones a disgyblion lleol.