Ysgolion Gwledig: Croesawu penderfyniad wedi 20 mlynedd o ymgyrchu

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu cyhoeddiad y Gweinidog Addysg heddiw y bydd o hyn allan rhagdyb o blaid ysgolion gwledig, ac yn galw am ddatblygu'r ysgolion yn gadarnhaol i adfywio'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Mae'r Gymdeithas hefyd wedi talu teyrnged i'r dwsinau o gymunedau sydd wedi brwydro dros addysg eu plant. 
 
Mewn ymateb i'r cyhoeddiad dywed Ffred Ffransis o Gymdeithas yr Iaith: 

"Ddegawd yn ôl, fe berswadion ni'r llywodraeth i gyhoeddi canllawiau i gynghorau lleol eu bod i fod i ystyried yr effaith ar yr iaith ac ar y gymuned leol o gau ysgolion pentrefol ac i ystyried pob opsiwn arall. Ond oherwydd mai awydd i gael gwared â llefydd mewn ysgolion oedd yn gyrru'r broses, ni chymerwyd y materion hyn erioed o ddifri. Yn awr mae'r Gweinidog yn dweud yn glir fod rhagdyb yn erbyn cau ysgolion gwledig a rhaid fydd cynnig achos eithriadol i gyfiawnhau eu cau. Dyma droi'r sefyllfa bresennol ar ei phen a rhoi gobaith newydd i gymunedau sydd wedi bod yn ymdrech ers amser maith tan gysgod y bwyell. 
 
"Galwn ar awdurdodau lleol i fynd ati'n gadarnhaol yn awr i ddatblygu'r ysgolion, sydd wedi eu hesgeuluso ers blynyddoedd, i'w llawn botensial fel canolfannau adfywio'r cymunedau pentrefol y maent yn eu gwasanaethu. Dylai hyn gynnwys ddysgu'r iaith a chymhathu mewnfudwyr fel y gall teuluoedd cyfan o newydd-ddyfodiaid chwarae rhan llawn ym mywyd y gymuned leol."