Ysgolion Pentrefol: Strategaeth gadarnhaol newydd yr Ysgrifennydd Addysg

Mae ymgyrchwyr iaith wedi'u calonogi gan agwedd gadarnhaol yr Ysgrifennydd Addysg newydd at ddatblygu ysgolion pentrefol Cymraeg.

Yn y Senedd wythnos yma, dywedodd Kirsty Williams AC ei bod yn edrych i ffocysu llawer iawn mwy ar ffederaleiddio ysgolion yn lle eu cau gan ddweud y byddai'r polisi yn gwella recriwtio a chodi safonau. Dywedodd hefyd y bydd strategaeth genedlaethol sy'n canolbwyntio ar ysgolion bach a gwledig.

Wrth groesawu'r polisi newydd, dywed Jamie Bevan, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

"O'r diwedd y mae Gweinidog Addysg sy'n deall cymunedau gwledig a phwysigrwydd allweddol ysgolion pentrefol i sicrhau eu parhad. Galwn am agwedd cadarnhaol newydd i ddatblygu ysgolion pentrefol Cymraeg fel pwerdai i adfywio'r cymunedau, ac mae ymyrraeth Kirsty Williams yn amserol iawn.

"Yr wythnos hon y mae Cyngor Gwynedd wedi penderfynu ymgynghori am ddyfodol ysgolion y sir, a chroesawn drafodaeth gyhoeddus agored os ydyw yng nghyd-destun sut i gryfhau'r ysgolion trwy gydweithio mewn ffederasiynau a thrwy wasanaethu eu cymunedau. Ni ddylai "ymgynghori" fod yn broses ffurfiol negyddol o geisio ffyrdd i gau ysgolion yn unig. Ein pryder yw fod Cyngor Ceredigion yn ymgynghori'n negyddol yn Nyffryn Aeron gan geisio gwerthu ei gynllun ei hun o gau ysgolion, yn hytrach na bod ymarferiad onest o geisio cynigion cadarnhaol."

Dywed Sioned Elin, Cadeirydd Rhanbarth Sir Gaerfyrddin o'r Gymdeithas:

"Ar union ddeng mlwyddiant cau Ysgol Mynyddcerrig, y mae bygythiad i un o'r ysgolion eraill y mae plant Mynyddcerrig wedi cael eu hanfon ati, sef Bancffosfelen. Ond mae'r llywodraethwyr a'r gymuned leol wedi dangos fod atebion cadarnhaol ar gael gan gynnig sefydlu Ymddiriedolaeth Gymunedol i berchnogi a datblygu adeilad yr ysgol, a'r Awdurdod Lleol yn rhentu rhan o'r adeilad ar gyfer ysgol"

Ychwanegodd Ms Elin, sydd a phlentyn ei hun yn Ysgol Bancffosfelen: "Gwahoddwn Kirsty Williams i ddod i Fancffosfelen i weld y sefyllfa ac i drafod y cynllun cyffrous gyda'r gymuned leol."