Gigs Steddfod: "lein-yp cyffrous a'r llety rhataf"

Mae tocynnau gigs Eisteddfod y Gymdeithas wedi mynd ar werth heddiw, gyda threfnwyr yn dweud eu bod wedi cyfuno'r lle rhataf i aros yn ystod y brifwyl gyda'r lein-yp gorau.

Mewn partneriaeth gyda Chlwb Rygbi Llanilltud Fawr, mae'r mudiad wedi sicrhau bod Eisteddfodwyr yn gallu aros mewn pabell am £6 y noson gyda 10% oddi ar bris diodydd i'r rhai sy'n gwersylla.

Mae lein-yp gigs y mudiad yn y Clwb Rygbi yn cynnwys rhai o artistiaid gorau Cymru megis Jess, Yr Ods, Y Bandana, Mr Huw, Meic Stevens, Huw M, Steve Eaves a Lleuwen Steffan yn ogystal â noson yng nghwmni Tudur Owen gyda gwestai arbennig i ddathlu hanner canmlwyddiant y Gymdeithas.

Meddai Alun Reynolds, Swyddog Adloniant y Gymdeithas:

"Rydyn ni'n gallu cynnig y ddêl arbennig hon trwy weithio mewn partneriaeth gyda phobl leol. Mae £6 y noson am lety yn ystod yr Eisteddfod yn rhad iawn. Bydd hwn yn hwb economaidd go iawn i Lanilltud Fawr ac yn hwb hefyd i'r Gymraeg yn lleol. Trwy weithio gyda phobl leol rydyn ni wedi sicrhau bod hwyl a sbri'r Eisteddfod reit yng nghanol y gymuned.'

"Mae'n gyffrous iawn i allu cynnal wythnos gyfan o nosweithiau gyda rhai o artistiaid blaenaf y sin Gymraeg yn cefnogi rhai o brif syniadau'r Gymdeithas. Byddwn nid yn unig yn edrych nôl ar hanner can mlynedd gyntaf Cymdeithas ond yn galw ar bobol edrych tuag at y dyfodol wrth i ni wynebu'r her ein hiaith yn ein cymunedau."

Mae tocynnau ar werth ar-lein ar www.cymdeithas.org/steddfod ac mae Eisteddfodwyr yn gallu cadw lle ar y maes gwersylla trwy ffonio 02920 486469.