Siop sglods Cas-gwent: Gwahoddiad arbennig i Rhodri Morgan

Mae siop sglodion yng Nghas-gwent wedi agor ei drysau ar ei newydd-wedd heddiw  fel y siop Gymraeg gyntaf i bobl ei chyrraedd yng Nghymru. Daw hyn fel rhan o ddathliadau hanner can mlwyddiant Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Mewn partneriaeth gyda'r mudiad iaith, mae siop sglodion yng nghanol tref Cas-gwent “Sgwar Beaufort” wedi gosod arwyddion dwyieithog ac yn annog staff a chwsmeriaid i ddefnyddio'r iaith. Mae perchnogion yn honni mai dyma'r siop Gymraeg gyntaf yng Nghymru, gan ei fod yn ychydig cannoedd o lathau o'r ffin gyda Lloegr.

Yn ôl y trefnwyr byddai croeso arbennig i'r cyn-Brif Weinidog Cymru Rhodri Morgan a ddywedodd pum mlynedd yn ôl na fyddai'n ymarferol i bobl ofyn i “archebu bwyd yn Gymraeg mewn siop pysgod a sglodion yng Nghas-gwent”. Fe ddaeth y dyfyniad yn lled-adnabyddus fel dadl yn erbyn Deddf Iaith Gymraeg newydd, deddf a basiwyd y llynedd.

Yn ôl Keith Beynon, dysgwr Cymraeg sydd yn rhedeg siop sglodion “Sgwar Beaufort” gyda'i wraig Sarah, maen nhw'n gweld y Gymraeg fel mantais i'r busnes:

“Rydyn ni'n hynod o falch o'n Cymreictod a'r Gymraeg yn ardal yma. Dyn ni'n bwriadu cael holl arwyddion y siop yn gwbl ddwyieithog. Ry'n ni'n llai na milltir o'r ffin gyda Lloegr, ond ry'n ni'n gweld y Gymraeg fel mantais fawr i'r dref. Sdim rheswm pam na allai pob siop wneud e. Gobeithio gwelwn ni Rhodri Morgan yn dod mewn rhyw ben i brynu sglods gyda ni!

“Hoffwn ddiolch i Gymdeithas yr Iaith Gymraeg am eu hagwedd bositif a'u cydweithrediad wrth i ni ddwyieithogi'r siop. Rwy'n hynod o falch eu bod nhw, fel mudiad, yn gweld y Gymraeg fel iaith sy'n berthnasol i bob ardal a pherson. Achos dyna sut dwi'n gweld yr iaith, etifeddiaeth unigryw i bob person sydd yn dewis gwneud Cymru yn gartref iddyn nhw.”

Mae'r digwyddiad yn rhan o daith Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i ddathlu 50 mlwyddiant y grŵp pwyso. Mae'r grŵp wedi bod yn gyrru ambiwlans arbennig i roi 'cymorth cyntaf' i'r Gymraeg sydd yn wynebu heriau mawr fel iaith gymunedol. Ychwanegodd Bethan Williams, Cadeirydd y mudiad:

“Mae gan y Gymraeg dyfodol ym mhob rhan o Gymru, ond bydd angen gwaith caled i sicrhau ei bod yn iaith fyw yn ein cymunedau. Mae'n taith wedi mynd o Wrecsam lawr i fan hyn yng Nghas-gwent.

“Rydw i'n falch ein bod fel mudiad yn gallu dathlu 50 mlynedd o ymgyrchu, gyda'r bwriad i gryfhau'r Gymraeg dros y blynyddoedd i ddod. Nid ydym am i'n Llywodraeth gyfyngu ar uchelgais ein gwlad; mae pobl Cymru am weld ein hiaith unigryw ffynnu ar draws y wlad. Mae'r mwyafrif helaeth o bobl Cymru yn cefnogi'r Gymraeg, ac yn aml iawn maen nhw'n bell o flaen y gwleidyddion pan mae'n dod at gefnogi a gwthio am ragor o wasanaethau yn Gymraeg.”

Fe fydd taith y mudiad yn parhau yn yr Eisteddfod Genedlaethol, Bro Morgannwg, lle y byddan nhw'n cynnal gigs yng nghlwb rygbi Llanilltud Fawr o ddydd Sadwrn Awst 4ydd a thrwy'r wythnos.