Barcudiaid Sir Gâr

Mae gyda ni bwyllgor o 'farcutiaid' yn Sir Gâr sydd yn dilyn cyfarfodydd a darllen cofnodion a chyhoeddiadau'r cyngor er mwyn sicrhau bod y cyngor yn cadw at y Strategaeth Iaith maen nhw wedi ei fabwysiadu ac yn gwneud cynydd parhaol.

Gall unrhyw un fod yn farcud drwy gwblhau'r ffurflen yma
Am fwy o wybodaeth cysyllta gyda ni – bethan@cymdeithas.org / 01559 384378

Tynged yr Iaith yn Sir Gaerfyrddin

Fis Ionawr 2015 fe wnaethon ni gynnal cyfarfod agored Tynged yr Iaith yn Sir Gaerfyrddin er mwyn i bawb  gael diweddariad a chyfle i ofyn cwestiynau am gynllun iaith y cyngor naw mis wedi iddo gael ei fabwysiadu. Nodiadau Cyfarfod Tynged yr Iaith yn Sir Gaerfyrddin - 17/01/15

Yn dilyn hyn cafwyd cyfarfodydd pellach i drafod agweddau ar waith y Cyngor.
Nodiadau cyfarfod Tynged yr Iaith Sir Gâr - addysg, gwasanethau ieuenctid a hamdden - 27/06/15

Nodiadau cyfarfod Tynged yr iaith Sir Gâr - Iaith Gwaith y Cyngor - 30/01/16

Nodiadau cyfarfod Tynged yr Iaith Sir Gâr - Strategaeth Hybu'r Cyngor - 17/09/16

Tynged yr Iaith Sir Gâr: Cynllunio Dyfodol ein Cymunedau - 28/1/17 (Rydyn ni'n dal i gasglu gwybodaeth a phrofiadau cymunedau o effaith y farchnad a datblygiadau tai ar eu cymuned. Cysylltwch i gyfrannu - bethan@cymdeithas.cymru)

Tynged yr Iaith Sir Gâr 2021? 30/9/17

Panel Ymgynghorol y Gymraeg

Yn dilyn canlyniadau'r Cyfrifiad a rali fawr “Dwi eisiau byw yn Gymraeg yn Sir Gaerfyrddin” yn Ionawr 2013 sefydlodd y Cyngor Sir 'Weithgor' i edrych beth gallai'r Cyngor wneud i sicrhau dyfodol y Gymraeg a chymunedau Sir Gâr.
Derbyniodd y Cyngor Sir adroddiad ac argymhellion Gweithgor y Gymraeg:

“Y Gymraeg yn Sir Gâr – Cynllun Gweithredu” (fersiwn Gorffennaf 2015)

Erbyn hyn mae'r Gweithgor wedi dod i ben a mae Panel Ymgynghorol y Gymraeg yn cadw golwg ar y sefyllfa. Nid yw'r cyfarfodydd yma yn agored i'r cyhoedd ond mae'r cofnodion ar wefan y cyngor sir

Sylwadau un o'r Barcudiaid ar gofnodion 25/02:
Pwynt 3 – Gwyliau Cymunedol
Beth oedd natur yr ymateb negyddol yn ardaloedd Llandeilo a Rhydaman a pha atebion gynigiwyd i'r sylwadau negyddol?
Cwynion bod popeth yn cael ei hysbysebu'n uniaith Saesneg, er bod y cyngor sir yn rhoi nawdd i'r ddwy ŵyl, ac adran farchnata'r cyngor ei hunan oedd yn gwneud deunydd ar gyfer gŵyl yn Rhydaman.
Gwirfoddolwyr sydd yn trefnu a Saesneg oedd iaith y digwyddiadau yn gyfan gwbl fwy neu lai ond roedd sesiwn stori gan Fenter Iaith yng Ngŵyl Rhydaman a honno hyd yn oed yn cael ei hysbysebu'n Saesneg!
Yr ateb ddaeth gan y Cyngor Sir oedd bod hyn yn broblem ac y byddai e'n cael ei drafod.
Pwynt 5 – Awgrym bod angen Lefel 1ALTE fel lleiafswm ar gyfer pob swydd. Iawn. Ond hyn a sefyllfa'r uwch swyddogion i'w drafod gan y Pwyllgor Craffu Polisi ac Adnoddau.
(Hefyd mae dwy enghraifft o hysbysebu swyddi uwch-swyddogion heb gyfeiriad at y Gymraeg, heblaw yn y swydd ddisgrifiad, a dydy'r lefel ddim yn uchel.)
Pwynt 7 - Diweddaru ar gynydd y Cynllun Gweithredu
1. Addysg:
Lansio'r Siartr Addysg - Angen edrych ar ei gynnwys ac a ydyw yn cael ei weithredu ym mhob ysgol.
Pa gyrsiau sydd i'w darparu i athrawon a rhieni?
2. Gweithleoedd Dwyieithog
- Swnio'n addawol ond pa fath o fonitro sydd yn digwydd gan yr Is Adran Rheoli Pobl?
- Beth yw'r "cynnydd da" sydd yn digwydd yn yr Adran Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Thai?
3. Hamdden a Chwaraeon - Braidd yn annelwig. Awdit argaeledd staff [prinder o'r gorffennol felly?] a gobeithio dechrau marchnata sesiynau "Cynefino â'r Gampfa"

Fforwm Strategol Sirol

Mudiadau'r Sir sydd yn aelodau o hwn ac yn cadw golwg ar weithredu Cynllun Gweithredu cynllun iaith y cyngor.

Cylch Gorchwyl y Fforwm

Cofnodion 10/6/15

Cofnodion 11/3/15

Cofnodion 13/1/15
Cofnodion 1/12/14
Cofnodion 14/11/14

Toriadau Cyngor Sir Gaerfyrddin:

Adroddiad yn dilyn ymgynghoriad
Cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol ble penderfynwyd ar doriadau (pwynt 2)
Ymgynghoriad i'r toriadau (Rhagfyr 2014)
Ymateb Cymdeithas yr Iaith

Nodiadau un o'r Barcudiaid ar argymhellion y bwrdd Gweithredol:

  • Bydd maint y toriadau: £12.8m yn 2015/16, £15.6m yn 2016/17 a £13.2m yn 2017/18, neu canran o -3.73%, -5.27% a -4.12% blwyddyn ar flwyddyn yn mynd i gael effaith andwyol ar y gwasanaethau presennol, ond waeth byth, yn mynd i wneud e'n anodd dros ben i weithredu'r Cynllun Gweithredu Strategaeth Iaith.
  • Bydd colli 58 o swyddi llawn amser erbyn 31 Mawrth 2015, gyda mwy i ddilyn yn creu bylchau yn y gwasanaethau, rhoi pwysau ar y staff sydd ar ôl, a gwneud hi'n lot mwy anodd i ehangu darpariaeth o'r Gymraeg. I wneud pethau'n waeth mae'n debyg taw staff profiadol, hŷn, sy'n medru'r Gymraeg bydd yn cael ei colli e.e. Pennaeth Llyfrgell Rhydaman.
  • Bydd cwtogiad o £30,000 o'r gyllideb cyfieithu yn Swyddfa'r Prif Weithredwr ddim yn helpu ehangu defnydd o'r Gymraeg, na £10,000 o brosiectau i hybu'r Gymraeg. Gyda toriadau o £60k i'r canolfannau gwasanaeth cwsmeriaid, £95k o'r Ganolfan Cyswllt a £98k o'r Adran Gyfraith a Gweinyddiaeth sut bydd hi'n bosib newid iaith gweinyddol mewnol y Gyngor? Bydd colli 9 aelod o'r Adran Dechnoleg Gwybodath yn sicr ddim yn helpu.
  • Yn y maes Addysg, mae toriadau difrifol: £100k o'r Cyfarwyddwr Ysgolion i wella'r gwasanaeth, £57k o arian wrth gefn, ac £16m o'r Gyllideb Ddirprwyedig Ysgolion dros y dair mlynedd nesa. Hefyd y toriadau o £200k yng Nghinio Ysgolion, £75k o Teuluoedd yn Gyntaf, £250k o Ganolfannau Seibiant a £250 o'r cyllid Maethu (£1.85m mewn un blwyddyn o'r Gwasanaeth Addysg a Phlant). Mae'n anodd gweld sut bydd y cyngor yn gallu gwireddu'r nod o symud ysgolion ar hyd y spectrwm iaith.
  • Yn Hamdden, bydd “cau nifer o gyfleusterau hamdden” gyda toriad o £395k dros dair mlynedd yn bownd o amharu ar y nod o symud at wasanaethau yn y Gymraeg.
  • Yn gyffredinol, bydd toriadau megis £2.6m o Wasanaethau Pobl Hŷn dros tair mlynedd, a £2.2m o Anableddau Dysgu yn gwneud niwed i'r gymuned pa bynnag iaith mae pobl yn defnyddio. Bydd hyn yn wir am yr holl ystad o doriadau: Iechyd Cyhoeddus, Gwasanaethau Dechnegol, Safonau Masnach, Llyfrgelloedd a'r Celfydyddau, Mynediad i Gefn Gwlad, Gwelliannau i'r Cartref a Hawliau Tramwyo.

Safonau Iaith

Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi gosod safonau ar nifer o gyrff, gan gynnwys Awdurdodau Lleol. Mae'r gwasanaethau bydd disgwyl i'r Cyngor eu darparuyn Gymraeg i'w weld yma: http://www.comisiynyddygymraeg.cymru/Cymraeg/Rhestr%20Cyhoeddiadau/20150930%20Hysbysiad%20Cydymffurfio44%20Cyngor%20Sir%20G%C3%A2r%20%28cy%29.pdf

Cyn gosod safonau roedd ymgynghoriad gan Gomisiynydd y Gymraeg. Mae ymateb Cyngor Sir Gaerfyrddin i'r ymgynghoriad i'w weld yma.