Eisteddfod Genedlaethol Tregaron 2022


 

Digwyddiadau ar y Maes

Cofio Cen Llwyd
2.30 Dydd Sadwrn 30 Gorffennaf
Pabell y Cymdeithasau 2
Cyfle i dalu teyrnged i waith Cen Llwyd
Angharad Tomos, Dylan Iorwerth, Dafydd Iwan, Dewi Pws  Mererid Hopwood

Taith o Drefechan i Dregaron
Dydd Sul, 31 Gorffennaf
Ymunwch â'r daith o leoliad protest gyntaf y Gymdeithas, pont Trefechan, i'r Eisteddfod yn Nhregaron i nodi wythnos o ddathlu'r 60 mlwyddiant!

Bydd taith feicio a cherdded yn dechrau yn dechrau o'r bont eiconig am 2pm ddydd Sul y 31ain a chroeso mawr i unrhyw un ymuno.
Byddwn ni'n trefnu ceir o Drawscoed i Dregaron i'r cerddwyr.

Ddim am feicio na cherdded?
Dewch i Sgwâr Tregaron i groesawu a nodi dechrau wythnos o ddathlu'r chwedegmlwyddiant

Rhowch wybod os ydych chi'n bwriadu ymuno â'r daith gerdded, er mwyn i ni drefnu digon o geir i gludo pobl i Dregaron.
Noder hefyd, er mai Cymdeithas yr Iaith sydd wedi cynllunio'r llwybr, bydd unrhyw un sy'n cymryd rhan yn y daith yn gyfrifol am eu diogelwch eu hunain.

 

Diogelwn: Sut i ddiogelu enwau Cymraeg
2.00, dydd Llun, 1 Awst
Stondin Cymdeithas yr Iaith
Simon Chandler, Howard Huws (Cylch yr Iaith), Nia Llywelyn

Panel Addysg Gymraeg i Bawb
2.00, dydd Mawrth, 2 Awst
Stondin Cymdeithas yr Iaith
Catrin Dafydd, Mabli Siriol Jones ac eraill

Rali Deddf Eiddo
2.00, dydd Iau, 4 Awst
Stondin Cymdeithas yr Iaith
Siaradwyr yn cynnwys Walis George, Cai Phillips a Meri Huws gyda Mabli Siriol Jones ac Osian Jones. Mwy o wybodaeth yma

Parti pen-blwydd yn 60 oed
4.00, dydd Iau, 4 Awst
Stondin Cymdeithas yr Iaith
Dewch i ddathlu pen-blwydd y Gymdeithas yn 60 oed mewn derbyniad caws a gwin ar stondin y Gymdeithas.

Cymru rydd, Cymru werdd, Cymru Gymraeg - maniffesto Cymdeithas yr Iaith 2022
2pm, dydd Gwener, 5 Awst
Pabell y Cymdeithasau 1
Mabli Siriol Jones, Robat Idris, Mirain Angharad, Sel Williams

Bob deng mlynedd ers ei sefydlu yn 1962, mae Cymdeithas yr Iaith yn cyhoeddi maniffesto yn amlinellu ein gweledigaeth ar gyfer y degawd i ddod. Dewch i drafod felly ar achlysur 60 mlwyddiant y Gymdeithas beth fydd y dyfodol, a sut y gallwn ei ffurfio.

60 Mlynedd o Gymdeithas yr Iaith
2.00, dydd Sadwrn, 6 Awst, Maes D
Sesiwn ryngweithiol i siaradwyr newydd ddysgu am hanes y Gymdeithas a chyfle i holi'r Cadeirydd Mabli Siriol. Dan arweiniad Helen Prosser.

Gigs

Tocynnau ar gael yma

Sadwrn Gorffennaf 30
Candelas
Twmffat
Mali Haf
Morgan Elwy
Tocyn £12

Sul Gorffennaf 31
Julie Murphy a Ceri Rhys Matthews
Gwilym Bowen Rhys
Cynefin
Mari Mathias
Tocyn £10

Llun - Awst 1
Bwncath
Tant
Bwca
Eve Goodman
Tocyn £10

Mawrth Awst 2
Bragdy'r Beirdd a Cicio'r Bar yn cyflwyno
YN Y GORS
Dan arweiniad Ifor ap Glyn
Tocyn £10

Mercher Awst 3
Adwaith
HMS Morris
Bitw
Elis Derby
Tocyn £12

Iau Awst 4
The Joy Formidable
Los Blancos
Pys Melyn
Eädyth
Tocyn £15

Gwener Awst 5
Mr
Ynys
Hap a Damwain
Pasta Hull
Tocyn £15

Sadwrn Awst 6
Breichiau Hir
Mei Gwynedd
Clustiau Cwn
Dienw
Tocyn £12

Map o leoliad y Maes a Chlwb Rygbi Tregaron (lleoliad gigs y Gymdeithas)