Cymunedau Cynaliadwy

Cyfarfod agored Nid yw Cymru ar Werth Caernarfon - Sut gallwn ni roi pwysau ar Lywodraeth Cymru am Ddeddf Eiddo

06/07/2023 - 19:00

Sut gallwn ni roi pwysau ar Lywodraeth Cymru am Ddeddf Eiddo?

nos Iau Gorffennaf 6 am 7pm
Lle Arall, Caernarfon (gyferbyn â Palas Print)

Sgwrs gyda
Walis George, Cymdeithas yr Iaith
Craig ab Iago, Cyngor Gwynedd

1500 yn ymrwymo i ddyfodol ein cymunedau

Er gwaetha'r tywydd fe wnaeth torf o dros 1500 o bobl yn rali Nid yw Cymru ar Werth heddiw ymrwymo i ddyfodol ein cymunedau lleol a danfon neges glir at y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, bod angen Deddf Eiddo sydd yn rheoleiddio'r farchnad.

Yn ôl Jeff Smith, Cadeirydd Grŵp Cymunedau Cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith:

Rali FAWR Nid yw Cymru ar Werth - Caernarfon

08/05/2023 - 11:30

 

Cyrraedd

Ar gyfer pobl yr ardaloedd cyfagos, mae bysus yn rhedeg - yn groes i rai adroddiadau. E.e. mae gwasanaeth bob 30 munud o Fangor a 5 bws yn y bore o Stinog>Port>Penygroes.

Y Maes, Caernarfon

DEDDF EIDDO I GYMRU - Dim Llai!

Wythnos cyn rali fawr 'Nid yw Cymru ar Werth' yng Nghaernarfon ar ddydd Llun 8 Mai, mae aelodau Cymdeithas yr Iaith wedi gosod sticeri a pheintio sloganau yn galw am Ddeddf Eiddo ar adeiladau Llywodraeth Cymru yn Aberystwyth, Caerfyrddin a Chyffordd Llandudno.

Llythyr at Julie James - rheoleiddio'r farchnad tai

Mae pdf o'r llythyr i'w lawrlwytho yma

Annwyl Julie James A.S., Gweinidog dros Newid Hinsawdd

Croesawu cynlluniau i godi treth twristiaeth ar ymwelwyr yng Nghymru

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu cynlluniau i godi treth twristiaeth ar ymwelwyr yng Nghymru.

Croesawu penderfyniad i beidio symud yn syth i gau Ysgol Felinwna

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi diolch i Gabinet Cyngor Gwynedd am wrando ar gymuned leol, a pheidio symud yn syth i gau Ysgol Felinwna.

Ymateb Cymdeithas yr Iaith i ymchwiliad y Pwyllgor Llywodraeth Lleol a Thai i’r Hawl i Gael Tai Digonol

Ymateb Cymdeithas yr Iaith i ymchwiliad y Pwyllgor Llywodraeth Lleol a Thai i’r Hawl i Gael Tai Digonol

Pwyswch yma i lawrlwytho a darllen pdf

Rali i alw am dai i bobl sy'n methu fforddio cartrefi yng Nghymru - tra bod "coroni braint" yn Llundain

Byddwn ni'n cynnal rali fawr "Nid yw Cymru ar Werth" ar y Maes yng Nghaernarfon ar Ddydd Llun 8ed o Fai - sy'n Ŵyl Banc penwythnos coroni Charles Windsor yn frenin yn Llundain.

Ymgyrchwyr yn brwydro'r elfennau yn Llanrwst

Mewn rali yn Llanrwst heddiw dywedodd Cymdeithas yr Iaith mai ymgyrchu llawr gwlad sydd wedi arwain at fesurau i fynd i'r afael ag effaith ail dai a thai gwyliau, a bod angen pwyso nawr am fesurau i ddatrys problemau ehangach.

Dywedodd Robat Idris, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:
"Ymgyrchwyr sydd wedi sicrhau bod grymoedd newydd gan gynghorau i leihau effaith ail dai, ond mae'r broblem tai yn ehangach nag ail dai a thai gwyliau.