Dyfodol Digidol

Sianel Pedwar Pwy? Datganolwn Ddarlledu - Trafodaeth Caernarfon

02/02/2017 - 19:00

7pm, nos Iau, 2il Chwefror 2017

Y Galeri, Caernarfon

Sianel Pedwar Pwy? Datganolwn Ddarlledu - Lansiad Bangor

21/01/2017 - 14:00

2yp, dydd Sadwrn, 21ain Ionawr 2017   

Sianel Pedwar Pwy? Datganolwn Ddarlledu - Trafodaeth Aberystwyth

07/01/2017 - 14:00

2 o'r gloch, dydd Sadwrn, 7fed Ionawr, 

Canolfan Merched y Wawr, Stryd yr Efail, Aberystwyth, SY23 1JH

Sianel Pedwar Pwy? Datganolwn Ddarlledu - Trafodaeth Aberystwyth

Cyllideb S4C i gael ei 'diogelu' gan y Llywodraeth – David Davies AS

Mae Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig wedi datgan ei fod yn 'hyderus' y bydd Gweinidogion Llywodraeth Prydain yn cadw at eu gair i 'ddiogelu' eu grant ar gyfer S4C, yn ôl mudiad iaith.   
 

S4C: Disgwyl clywed am gynnydd yn ei grant

Yn dilyn sylwadau gan Weinidog yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw, mae ymgyrchwyr iaith wedi dweud eu bod nhw dal i ddisgwyl clywed manylion am gan faint y bydd grant y Llywodraeth i S4C yn cynyddu’r flwyddyn nesaf.

Cyfarfod Grŵp Dyfodol Digidol

05/06/2017 - 18:00

Cyfarfod Grŵp Dyfodol Digidol

Nos Lun, 5ed Mehefin, 6 o'r gloch tan 7

Yn swyddfa'r Gymdeithas yn Aberystwyth neu dros gyswllt we - cysylltwch â Robin ar post@cymdeithas.cymru o flaen llaw os hoffech gymryd rhan

Croeso i aelodau a chefnogwyr gyfrannu i'r drafodaeth, cyfle i ddysgu mwy a helpu gyda'n hymgyrch ynglŷn â'r cyfryngau a'r Gymraeg.

Byddem yn trafod:

  • Ymgyrch datganoli darlledu
  • Cyllid S4C
  • Google, Apple, TripAdvisor a chwmnïau eraill

S4C - Disgwyl cyhoeddi cynnydd yn y gyllideb

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi dweud ei bod yn disgwyl i Lywodraeth Prydain gyhoeddi cynnydd yng nghyllideb S4C dros yr wythnosau nesaf o ganlyniad i ddatganiad Hydref y Canghellor ddydd Mercher yma.

99% o gyllid ffilmiau'r Llywodraeth yn mynd i brosiectau Saesneg

Angen clustnodi hanner yr arian ar gyfer prosiectau Cymraeg eu hiaith medd Cymdeithas 

Mae Llywodraeth Cymru wedi cael ei beirniadu'n hallt gan fudiad iaith am fuddsoddi ddim ond £40,000 yn ffilmiau Cymraeg ers 2011 tra'n gwario £7 miliwn ar ffilmiau Saesneg.  

Rhewi Cyllid S4C? Datganoli yw'r ateb