Ysgrifennwn atoch er mwyn gosod y newidiadau rydym am eu gweld yn y rheoliadau Safonau Iaith a ddaw gerbron y Cynulliad am gydsyniad yn fuan. Rydym yn gytun ein bod am sicrhau twf o ran defnydd o'r Gymraeg.
Mae Cymdeithas yr Iaith yn gofyn i bobl beidio siopa yn Morrisons am nad oes gwasanaeth Cymraeg llawn gyda nhw. Gyda chymaint o fusnesau yn agor ac yn adnewyddu siopau yn Aberystwyth bydd cyfle i holi 'Pam boicot Morrisons' ac yn bwysicach – beth gallwn ni wneud i ddylanwadu a newid y busnesau hyn mewn cyfarfod lan lofft y Cŵps nos Iau y 29ain o Ionawr.
Siaradwyr: Sian Gwenllian, Dafydd Iwan, Menna Machreth, Simon Brooks, Ieu Wyn, Hywel Williams AS
Ym mis Medi 2014, penderfynodd Bwrdd Cartrefi Cymunedol Gwynedd (CCG) hysbysebu dwy o'i swyddi haen uchel heb fod y gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol a heb osod amod fod rhaid i'r ymgeiswyr llwyddiannus ddysgu Cymraeg.
Gyda thymor siopa Nadolig yn ei anterth, a Morrisons yn dal heb weithredu ein gofynion, bydd digwyddiadau mewn sawl rhan o Gymru ar ddydd Sul Rhagfyr 21ain.
Mae ymgyrchwyr yn pryderu y gallai addewid y Llywodraeth i ddarparu gwersi nofio Cymraeg i bob blentyn drwy'r safonau iaith fod yn ddiwerth yn 14 o siroedd achos preifateiddio, yn dilyn gwaith ymchwil gan y Cynulliad.