Hawliau i'r Gymraeg

Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru)

[agor fel PDF]

Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru)

Ymateb Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

1.      Cyflwyniad

1.1.  Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn fudiad sy'n ymgyrchu'n ddi-drais dros y Gymraeg a holl gymunedau Cymru.

Cartrefi Cymunedol Gwynedd - cwyn am hysbyseb swydd

Annwyl Gomisiynydd y Gymraeg,

Cysylltwn er mwyn gwneud cwyn yn erbyn Cartrefi Cymunedol Gwynedd (CCG). Fel y gwyddoch, mae’r mater hwn wedi cael cryn dipyn o sylw yn ddiweddar oherwydd penderfyniad y sefydliad nad oes angen i’r Dirprwy Brif Weithredwr fedru’r Gymraeg, drwy beidio â gosod y Gymraeg fel sgil hanfodol, na hyd yn oed dymunol, wrth hysbysebu’r swydd.

Cyfarfod Agored y Grŵp Hawl

29/04/2019 - 18:30

Cyfarfod Grŵp Hawl o Gymdeithas yr Iaith. Nos Lun y 29ain o Ebrill am 6.30pm yn Nhafarn y Queens, Caerfyrddin.

Byddwn yn trafod ein hymgyrch i fancio yn Gymraeg, digwyddiadau posib yn Eisteddfodau’r Urdd a’r Genedlaethol, y Safonau Iaith, a materion eraill.

Dewch i ddysgu mwy am waith y grŵp a sut gallwch chi helpu. Croeso mawr i aelodau newydd!

Os oes gennych ddiddordeb yng ngwaith o grŵp, ond na allwch ddod i’r cyfarfod, cysylltwch â post@cymdeithas.cymru.

Llyfrgell Genedlaethol: Gweinidog yn erbyn gwneud y Gymraeg yn hanfodol

Mae un o Weinidogion Llywodraeth Cymru o dan y lach am geisio cael gwared ar amod y dylai’r Llyfrgellydd Cenedlaethol newydd fedru’r Gymraeg cyn i’r swydd gael ei hysbysebu ddiwedd y llynedd. Mae 90% o staff y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth yn siarad Cymraeg ac mae’r corff yn gweithio’n fewnol drwy’r iaith.

Ymgyrch recriwtio gofalwyr yn diystyru cynllunio’r gweithlu Cymraeg - Cymdeithas

Mae mudiad iaith wedi mynegi pryder nad yw ymgyrch newydd i gyflogi ugain mil yn fwy o ofalwyr yn sôn am yr angen i recriwtio siaradwyr Cymraeg.

Dywedodd Gwerfyl Wyn Roberts, Cadeirydd Grŵp Iechyd, Cymdeithas yr Iaith:

HSBC: ‘mae’r Gymraeg yn iaith estron’

Mae galwadau ar i fanciau ddarparu gwasanaethau Cymraeg ar y we, yn dilyn ymateb gan HSBC i gŵyn sy’n dweud bod yr iaith yn ‘estron’.  

Picedu yn erbyn Trafnidiaeth Cymru oherwydd diffyg gwasanaethau Cymraeg

Bydd ymgyrchwyr yn cynnal cyfres o bicedi ledled y wlad heddiw (dydd Sadwrn, 12fed Ionawr) yn erbyn y gwasanaeth trên newydd, Trafnidiaeth Cymru, gan fod cyn lleied o wasanaethau ar gael yn Gymraeg.

Picedu yn erbyn Trafnidiaeth Cymru!

12/01/2019 - 11:00

Picedu yn erbyn Trafnidiaeth Cymru!

Byddwn yn picedu mewn nifer o orsafoedd trenau, am 11yb ddydd Sadwrn y 12fed o Ionawr oherwydd diffyg gwasanaethau Cymraeg gan Drafnidiaeth Cymru.

Byddwn ni'n picedu yn y gorsafoedd trenau canlynol:

- Gorsaf Aberystwyth - am ragor o fanylion dyfed@cymdeithas.cymru/ 01970 624501
- Gorsaf Machynlleth - am ragor o fanylion dyfed@cymdeithas.cymru/ 01970 624501
- Gorsaf Caerdydd - am ragor o fanylion de@cymdeithas.cymru / 02920 486469