Archif Newyddion

29/05/2024 - 10:02
Cyflwynwyd galwad “Deddf Eiddo – Dim Llai” Cymdeithas yr Iaith i swyddogion Llywodraeth Cymru heddiw (29 Mai) wedi diwedd digwyddiad dathlu deng mlwyddiant y Siarter Iaith yn stondin y Llywodraeth. Mae gwaith a llwyddiannau’r Siarter i’w canmol yn ôl y Gymdeithas, ond mae argyfwng tai a dinistr y farchnad agored yn bygwth “tanseilio” y gwaith da hynny, yn hytrach nag adeiladu arno.
28/05/2024 - 17:11
Cyflwynodd Gymdeithas yr Iaith ‘Proclamasiwn Addysg Gymraeg Powys’ i aelod Cabinet Cyngor Powys dros Addysg ar faes Eisteddfod yr Urdd heddiw (28 Mai).
18/05/2024 - 13:00
Mewn fforwm agored yn Llyfrgell Caerfyrddin heddiw (dydd Sadwrn 18/5) cynhaliodd rhanbarth Caerfyrddin drafodaeth ar sut y gallai rhwydwaith o Fentrau Cymunedol yn Sir Gaerfyrddin fod yn rhan o strategaeth datblygu economaidd a fydd yn hyrwyddo'r iaith a chymunedau Cymraeg.
17/05/2024 - 17:36
Yn dilyn cwymp y Cytundeb Cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru, mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar y Llywodraeth i gadw at ymrwymiadau oedd yn y cytundeb yn ymwneud â’r Gymraeg, gan rybuddio bod sawl maes polisi y cytunwyd arnynt yn y fantol. Dywedodd Dafydd Williams, Is-gadeirydd Cymdeithas yr Iaith:
14/05/2024 - 13:00
Mewn ymateb i gyhoeddiad gan HSBC eu bod yn mynd i leihau’r amser i drefnu i gwsmer gael galwad yn ôl yn y Gymraeg o dri diwrnod gwaith i un, mae Cymdeithas yr Iaith wedi rhybuddio byddai hyn yn dal yn golygu bod darpariaeth Gymraeg y banc “ymhell o fod yn gyfartal” â’r ddarpariaeth Saesneg ac wedi ategu mai deddfwriaeth newydd yw’r unig ateb. Mewn datganiad, dywedodd HSBC:
13/05/2024 - 17:18
Dyfarnodd llys yn Aberystwyth yn erbyn yr ymgyrchydd iaith Toni Schiavone heddiw (13 Mai) a chaniatau i gwmni parcio One Parking
08/05/2024 - 14:25
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar Gyngor Ceredigion i drin ysgolion gwledig y sir gydag agwedd “cadarnhaol” yn lle eu trin fel “problemau” yn dilyn pryderon dros ddyfodol rhai ohonyn nhw.
04/05/2024 - 18:49
Mynychoedd gannoedd rali a gorymdaith Nid yw Cymru ar Werth ym Mlaenau Ffestiniog heddiw (4 Mai) i alw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Deddf Eiddo fyddai’n mynd at wraidd yr argyfwng tai, a sicrhau bod tai yn 
01/05/2024 - 14:47
Mewn ymateb i adroddiadau a phryderon bod dyfodol nifer o ysgolion cynradd gwledig Ceredigion dan fygythiad, dywedodd Jeff Smith, Cadeirydd Rhanbarth Ceredigion Cymdeithas yr Iaith:
29/04/2024 - 11:31
Bydd yr ymgyrchydd iaith Toni Schiavone yn ymddangos gerbron llys yn Aberystwyth am y pedwerydd tro ar ddydd Llun, 13 Mai am iddo wrthod talu rhybudd parcio uniaith Saesneg, wedi i’r cwmni parcio One Parking Solution ennill apêl i ailgyflwyno’r achos fis Ionawr.