AS ac AC yn cefnogi'r galwadau dros ddatganoli darlledu i Gymru

Arwyddodd yr Aelod Seneddol Jonathan Edwards, a Rhodri Glyn Thomas Aelod Cynulliad dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr heddiw ddatganiad yn galw am ddatganoli cyfrifoldeb dros y cyfryngau yng Nghymru fel rhan o ymgyrch Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i godi llais ar y mater.

Dywedodd Jonathan Edwards AS:

"Rydym wedi gweld yn ddiweddar gyda'r toriadau yng Nghyllideb S4C bod yn wir angen i ni gael reolaeth dros ddarlledu yng Nghymru, nid yw'n gwneud synnwyr bod y sector darlledu yng Nghymru yn agored i fygythiadau cyson gan lywodraeth nad oes arno fandad yng Nghymru."

Ategodd Rhodri Glyn Thomas AC:

"Mae darlledu yng Nghymru wedi wynebu ergyd ar ôl ergyd yn y flwyddyn diwethaf ac mae'n bryd i ni gymryd yr awenau i neud rhywbeth ynghylch y peth yn y Cynulliad."

Meddai Adam Jones, llefarydd digidol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

"Rydyn ni'n falch bod cymaint o wleidyddion a sefydliadau ar hyd a lled Cymru yn cefnogi ein hymgyrch. Mae darlledu yng Nghymru yn wynebu dyfodol trychinebus os na wnawn ni rywbeth nawr. Rydyn ni wedi gweld yn ddiweddar agwedd San Steffan tuag at ddarlledu yn y ffordd y gwnaethon nhw ddi-ystyrru pobl Cymru a phwysigrwydd y sianel wrth benderfynu ar ei dyfodol.

"Yr unig ffordd i atal penderfyniadau annoeth yn y dyfodol yw sicrhau nad nhw sydd yn cael penderfynu ar y materion yma. Yr hyn sydd ei angen yw datganoli cyfrifoldeb fel y gallwn ni greu strwythur gref Gymreig i ddarlledu fydd yn rhoi blaenoriaeth i'n cymunedau. Mae'n bryd nawr i'n Haelodau Cynulliad sefyll lan a mynnu bod yr holl rymoedd dros ddarlledu yn dod yma i Gymru, a phwyso ar San Steffan nes bydd hynny'n digwydd."