Galw ar i Gyngor Ceredigion weithio drwy’r Gymraeg yn bennaf

Mae gofodau lle mae’r Gymraeg yn brif gyfrwng cyfathrebu yn un o’r mesurau allweddol ar gyfer cynyddu defnydd yr iaith.

Mae gweithleoedd lle mae’r Gymraeg yn unig neu yn brif iaith gwaith yn rhan o hynny, ac mae gan Gyngor Ceredigion, fel un o gyflogwyr mwyaf y sir, gyfrifoldeb arbennig i arwain y ffordd.

Ers degawdau mae Cyngor Gwynedd a’r Llyfrgell Genedlaethol wedi bod yn gweithio drwy’r Gymraeg yn unig, a hynny wedi cryfhau sgiliau iaith cannoedd ar filoedd o bobl dros y blynyddoedd.

Mae llawer o bobl yn siarad Cymraeg oherwydd bod y polisïau blaengar hyn wedi caniatáu i ddysgwyr ddod yn siaradwyr wirioneddol hyderus, trwy gael eu trochi yn y Gymraeg yn eu gwaith bob dydd. 

Rydyn ni eto i weld yr un polisi ar waith yng Nghyngor Ceredigion. Bob dydd felly, mae defnydd y Gymraeg yn is nag y byddai petai arweinyddiaeth y cyngor wedi cadw at yr addewid a wnaed ganddi yn 2011 i weinyddu drwy’r Gymraeg.

Felly, galwn ar i arweinyddiaeth newydd Ceredigion osod dyddiad pan fydd y Cyngor yn gweithio’n bennaf drwy’r Gymraeg a chreu amserlen a chamau gweithredu er mwyn cyrraedd y nod hwnnw.

 

Arwyddwch y llythyr agored

Dwi'n rhoi caniatâd i Gymdeithas yr Iaith ddefnyddio'r canlynol er mwyn cysylltu ynglŷn â'n hymgyrchoedd a digwyddiadau:

Cysylltu dros y ffôn
Cysylltu trwy ebost

Mae angen bod tic yn y blwch yma er mwyn i chi dderbyn newyddion pellach am yr ymgyrch hon.

Mae gwybodaeth am sut dan ni'n defnyddio eich data yma cymdeithas.cymru/preifatrwydd