Cyfarfod Cyffredinol 2019
10:00yb, dydd Sadwrn, 12fed Hydref 2019
Canolfan y Morlan, Aberystwyth
Edrychwn ymlaen at eich gweld yn ein Cyfarfod Cyffredinol eleni. Rydym yn trefnu cludiant o Gaerdydd, Caerfyrddin a Chaernarfon – am fanylion pellach e-bostiwch: post@cymdeithas.cymru neu ffoniwch 01970 624501.
#cyfcyff
Amserlen y Dydd
10.00 Cofrestru a phaned
10.30 Esbonio’r Cyfarfod Cyffredinol
10.35 Cyflwyniadau ymgeiswyr Senedd a Chyngor (agor y cyfnod pleidleisio)
11.00 Cynigion a gwelliannau (i'w gweld yma: http://cymdeithas.cymru/cynigion2019)
12.30 Adroddiadau grwpiau ymgyrchu, rhanbarthau, a’r adroddiadau ariannol
1.00 Cinio a phaned (cau’r cyfnod pleidleisio am 1.15)
Heb Dai, Heb Ddyfodol
2.00 Cyhoeddi canlyniadau'r etholiad
2.10 Araith y Cadeirydd newydd
2.20 Cyflwyniad byr gan y cyfranwyr:
-
Heddyr Gregory (Shelter Cymru)
-
Cynghorydd Loveday Jenkin (Meybon Kernow)
-
Sel Jones (Cymdeithas)
-
Màrtainn Mac a'Bhàillidh (Misneachd)
2.45 Trafodaeth
3.30 Cloi a gorffen
2pm, dydd Sadwrn, 12fed Hydref
Canolfan Morlan, Aberystwyth
Cynghorydd Loveday Jenkin (Meybon Kernow), Sel Jones (Cymdeithas), Heddyr Gregory (Shelter Cymru) a Màrtainn Mac a'Bhàillidh (Misneachd)
Mae mwy a mwy o bobl yn wynebu anhawsterau gwneud cartref ac aros yn eu hardal leol. Yn ei dro, mae hynny’n tanseilio bywyd cymunedol, ein trefi a phentrefi a’r Gymraeg. Mae angen cyfundrefn eiddo arnon ni sy’n sicrhau bod prisiau tai yn adlewyrchu’r hyn mae pobl leol yn gallu fforddio. Beth allwn ni ddysgu o wledydd eraill am sut i ymdrin â’r broblem? Dewch i ddatgan yn glir ‘Nid yw Cymru ar Werth!’
cymdeithas.cymru
#cyfcyff