Cyfarfod Cyffredinol 2024

05/10/2024 - 10:30

Cyfarfod Cyffredinol 2023

10:30yb, dydd Sadwrn, 5 Hydref 2024
Neuadd Rhydypennau, Bow Street

Edrychwn ymlaen at eich gweld yn ein Cyfarfod Cyffredinol eleni. Mae croeso i bawb yn ein Cyfarfod Cyffredinol ond dim ond aelodau sydd â'r hawl i bleidleisio. Mae Neuadd Rhydypennau ym mhentref Bow Street ble mae Gorsaf Drenau a digon o fysys yn mynd trwy'r pentref.

Cofiwch roi gwybod os ydych yn dod, er mwyn i ni sicrhau bod digon o gopïau o'r dogfennau ar gael. Ni fyddwn yn darparu cinio.

Dyma yw penwythnos Gŵyl Gomedi Aberystwyth felly mae'n esgus da am benwythnos yn Aber!

Gobeithir allu trefnu cyfarfod cyhoeddus yn syth ar ôl y Cyfarfod Cyffredinol mwy o fanylion i ddilyn.

Angen cymorth er mwyn gallu dod i'r cyfarfod?

  • Mae croeso i blant yn ein cyfarfodydd.

  • Mae swyddogion y Gymdeithas yn gallu cynnig lifftiau o nifer o leoedd yn y wlad.

  • Os yw costau trafnidiaeth neu ofal yn rhwystr rhag ddod i'r cyfarfod, gallwch wneud cais i hawliau'r costau yn ôl. Rydym ond yn ystyried ceisiadau am gostau teithio mewn amgylchiadau pan nad oedd yn bosib i chi rannu lifft gyda swyddogion eraill.

  • Dylech gysylltu â'n swyddfa ganolog ar 01970 624501 cyn gwneud trefniadau teithio neu ofal rydych chi eisiau eu hawliau yn ôl rhag ofn bod modd i ni drefnu lifft neu wneud trefniant arall.

  • Gallwch ddarllen y Polisi Treuliau yn llawn yma.