Sut allwch chi gefnogi'r ymgyrch dros ddatganoli darlledu?
1. Llofnodwch y ddeiseb: https://cymdeithas.cymru/deisebdatganolidarlledu
2. Gwrthodwch dalu eich ffi drwydded deledu drwy lenwi'r ffurflen isod
Cefndir yr Ymgyrch
Mae sefyllfa ariannol S4C yn hynod fregus, y BBC sy’n llywio ein gorsaf radio ac mae diffyg difrifol mewn darlledu yn Gymraeg ar radio masnachol a theledu lleol. Ac mae diffyg democrataidd mawr yn y wlad oherwydd yr holl ddarlledwyr Prydeinig sy'n ein trin fel rhan o Loegr.
Nawr yw'r amser i sicrhau ein bod ni yng Nghymru yn rheoli ein cyfryngau er lles yr iaith a holl gymunedau Cymru. Ac mae'r cyhoedd gyda ni. Yn ôl pwyllgor trawsbleidiol Comisiwn Silk, a sefydlwyd gan Lywodraeth Prydain ei hunan, mae 60% o bobl Cymru o blaid datganoli darlledu yn ei gyfanrwydd i Gymru.
Rydym yn gofyn i chi wneud ymrwymiad cyhoeddus i beidio â thalu eich trwydded deledu nes bod y Llywodraeth yn cytuno i ddatganoli darlledu i Gymru.
Rhagor o Wybodaeth
Mae croeso i chi gysylltu â ni ar 01970 624501 neu post@cymdeithas.cymru er mwyn trafod yr ymgyrch ymhellach neu gydag unrhyw gwestiynau sydd gennych.
Papur Trafod - Yr Achos dros Ddatganoli Darlledu
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi paratoi Papur Trafod ar sut lun o strwythur darlledu yr hoffen ni ei weld yma yng Nghymru, unwaith y bydd wedi ei ddatganoli. Rydym yn cynnal trafodaeth gyda phobol Cymru a gyda'r diwydiant darlledu cyn ei derfynoli. Mae ar gael i'w ddarllen yma.
Barod i wrthod Talu'r Drwydded Deledu?
Mae degau o aelodau a chefnogwyr y Gymdeithas eisoes wedi ymrwymo i fod yn rhan o'r brotest hon a wynebu unrhyw ganlyniadau - a gofynnwn i chi ystyried ymuno gyda'r safiad.
Wedi rhoi gwybod i ni, awgrymwn eich bod yn cysylltu â'r awdurdodau i roi wybod iddynt am eich safiad - dyma awgrym neges y gallech ei olygu:
At: trwyddedu.teledu@tvlicensing.co.uk
Annwyl Fadam / Syr,
Rwy'n gwrthod talu ffi'r drwydded, nes i Lywodraeth Prydain gytuno i ddatganoli darlledu i Gymru, fel rhan o ymgyrch Cymdeithas yr Iaith. Rwyf yn sylweddoli fy mod yn torri'r gyfraith ac yn barod i wynebu'r canlyniadau.
Rwyf wedi canslo fy nebyd uniongyrchol / Ni fyddaf yn gwneud cais am drwydded am ddim / Ni fyddaf yn talu ar [ddyddiad]
Mae'r gyfundrefn darlledu yn annheg iawn i Gymru a dim ond drwy ddatganoli darlledu gellir unioni'r sefyllfa. Ni allwn oddef yr holl doriadau i S4C ac ymgais y BBC i'w thraflyncu. Yn ogystal, mae'r diffyg sylw i Gymru yn fwy cyffredinol a ddarperir gan ddarlledwyr yn peryglu democratiaeth yng Nghymru.
Yn gywir,
[Eich enw]
Ffurflen ymrwymo
Trwy gwblhau'r ffurflen hon, rwy'n ymrwymo i wrthod talu ffi'r drwydded, nes i Lywodraeth Prydain gytuno i ddatganoli darlledu i Gymru.
Trwy gwblhau'r ffurflen, rydych hefyd yn cytuno y gallem gysylltu â chi gyda gwybodaeth berthnasol i'r ymgyrch. Cysylltwn ni â chi wedyn gyda rhagor o wybodaeth ac unrhyw ddatblygiadau pellach.
Ni fyddwn ni'n cyhoeddi eich enw na manylion eraill heb gysylltu â chi eto yn uniongyrchol i drafod y mater.