Arwyddwch lythyr agored i ollwng Saesneg o Fil y Cwricwlwm

Mae Bil y Cwricwlwm yn ei ffurf bresennol yn fygythiad i addysg Gymraeg. Mynnwch fod y Llywodraeth yn gwrando ar eich llais drwy arwyddo'r llythyr agored isod.

Os ydych chi yn neu wedi bod yn weithiwr yn y maes addysg, ychwanegwch eich enw i'r llythyr agored yma at y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams yn galw ar y Llywodraeth i ollwng gorfodaeth o Saesneg o Fil y Cwricwlwm. Pan gyhoeddwyd y llythyr yn wreiddiol (ar 08/07/20), cafwyd 407 o lofnodion - ymunwch gyda nhw!

Drwy arwyddo'r llythyr isod rydych yn rhoi caniatad i Gymdeithas yr Iaith gyhoeddi eich enw, sir a swydd fel un o'i lofnodwyr.

 

Llythyr agored gan weithwyr addysg at Lywodraeth Cymru

Annwyl Weinidog Addysg, Kirsty Williams AS,

Ysgrifennwn fel gweithwyr ac arbenigwyr addysg i alw arnoch i ollwng gorfodaeth o Saesneg o Fil y Cwricwlwm. Anghytunwn â’r cynnig i wneud Saesneg yn elfen orfodol o’r cwricwlwm ar wyneb y ddeddfwriaeth, a gofyn i​ gyrff llywodraethu i ‘optio allan’ fesul un o wneud Saesneg yn orfodol cyn 7 oed yn eu hysgol nhw.

Nid oedd adroddiad Donaldson, a dderbyniwyd yn llawn gan y Llywodraeth, yn argymell gwneud Saesneg yn elfen orfodol o’r cwricwlwm, dim ond y Gymraeg. Nid yw’r Llywodraeth wedi cynnig unrhyw dystiolaeth na chyfiawnhad addysgol dros wneud Saesneg yn orfodol,1 ac ni wnaeth yr un arbenigwr na rhanddeiliad argymell hyn yn ystod y gwaith ymgynghori .

Mae hynny'n wahanol i weddill Cwricwlwm i Gymru sy'n seiliedig ar gyngor arbenigwyr ac addysgwyr. Mae cyrff addysg Gymraeg yn cynnwys Mudiad Meithrin​ Rhieni dros Addysg Gymraeg​ wedi codi pryderon am y cynnig i wneud Saesneg yn orfodol ac nid ydym wedi gweld ymateb boddhaol gan y Llywodraeth i’w pryderon.

Yn ymarferol, nid oes angen gorfodaeth ddeddfwriaethol i sicrhau bod disgyblion yn rhugl yn Saesneg. Mae Saesneg yn rhwym o gael ei dysgu, ac mae sicrwydd am hynny yn y Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu heb fod angen cymal deddfwriaethol penodol. Yn y cyd-destun ieithyddol presennol, mae plant Cymru’n mynd i gaffael Saesneg oherwydd ei bod yn iaith mor rymus ac yn hollbresennol ym mywydau pawb yn y wlad. Rydym yn rhannu eich nod o sicrhau bod holl blant Cymru yn rhugl yn Gymraeg a Saesneg. Fodd bynnag, mae'n glir mai'r Gymraeg, ac addysg Gymraeg yn benodol, sydd angen cefnogaeth ddeddfwriaethol, nid Saesneg.

Byddai gwneud Saesneg yn orfodol ar wyneb y ddeddfwriaeth yn cael effaith negyddol ar ethos ac arferion ysgolion a chyd-destunau addysg eraill lle mae eisoes yn frwydr i sicrhau mai'r Gymraeg yw'r norm fel cyfrwng dysgu a chyfathrebu. Nid yw cadw Saesneg yn y ddeddf fel gofyniad cyffredinol ond gwneud eithriad ar gyfer y sector 'Cymraeg' yn ddigonol. O ystyried y dymuniad i ysgolion symud i fyny'r continwwm ieithyddol, nid eithriad ar gyfer rhai ysgolion sydd angen ond tynnu Saesneg yn llwyr o'r ddeddfwriaeth.

Mae’r cynnig o ‘optio mewn’ i’r cyfnod trochi gan ysgolion unigol yn dangos diffyg dealltwriaeth o ddulliau trochi, sydd mor allweddol i lwyddiant addysg Gymraeg, ac yn peryglu eu parhad ar draws y wlad. Mae’n golygu byddai modd newid cyfrwng iaith ysgol ar fympwy cyrff llywodraethol. Bydd yn rhwystro felly unrhyw gynllunio strategol gan awdurdodau lleol a’r Llywodraeth i ehangu addysg Gymraeg ac i weithredu Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg.

Byddai system lle mae’n rhaid i ysgolion Cymraeg geisio am eithriad i beidio â chyflwyno’r Saesneg cyn 7 oed, ond nid oes rhaid i ysgolion Saesneg wneud dim, yn sefydlu’r syniad taw rhywbeth ymylol, anarferol neu eithriadol ydy addysg Gymraeg, a Saesneg ydy cyfrwng normadol addysg yng Nghymru. Byddai’n enghraifft glir o drin ysgolion Cymraeg yn llai ffafriol nag ysgolion Saesneg.

Rydym yn llwyr gefnogol o darged y Llywodraeth o filiwn o siaradwyr a sicrhau bod 70% o blant Cymru’n gadael yr ysgol yn rhugl eu Cymraeg erbyn 2050. Rydym yn awyddus felly i’r sector addysg, y Llywodraeth ac awdurdodau lleol gydweithio er mwyn gweithredu un continwwm dysgu’r Gymraeg a thyfu a normaleiddio addysg Gymraeg ar draws y wlad. Pryderwn fydd y cynigion yn y Bil yn rhwystro hynny rhag digwydd.

Hanes o orfod brwydro dros ei chydnabyddiaeth a’i datblygiad ydy hanes addysg Gymraeg. Ond mae hefyd yn hanes o bobl yn arloesi a chydweithio er mwyn cynnal etifeddiaeth unigryw i genedlaethau o blant. Nid ydym am weld Bil y Cwricwlwm yn troi’r cloc yn ôl ac achosi brwydro pellach dros addysg Gymraeg ar lefel ysgolion a chymunedau.

Mae miloedd o bobl yn siarad Cymraeg heddiw oherwydd llwyddiant addysg Gymraeg. Gwyddom o’n gwaith yn y maes beth sy’n gweithio i ddatblygu sgiliau ieithyddol plant o bob cefndir, a sut mae creu mwy o siaradwyr Cymraeg i helpu i gyrraedd y miliwn. Rydym yn erfyn arnoch i wrando ar yr arbenigwyr — y rhai sy’n gweithio bob dydd i ddarparu a datblygu addysg Gymraeg i holl blant Cymru.

Nid eithriad i’r norm ydy addysg Gymraeg ond rhywbeth i’w dathlu, ei chofleidio a’i thyfu. Gofynnwn i chi wrando a sicrhau bod Bil y Cwricwlwm yn adlewyrchu hynny.

 

Cadarnhawyd hyn mewn ymateb i Gais Rhyddid Gwybodaeth: 

https://gov.wales/sites/default/files/publications/2019-04/ATISN%2013044.pdf

 

Mae'r cyfnod ar gyfer llofnodi'r llythyr wedi dod i ben.