Mynnwn bod Llywodraeth Cymru yn gweithredu dros y Gymraeg a chymunedau Sir Gâr

Y cefndir:

Sir Gâr welodd y cwymp mwyaf yng nghanran y siaradwyr Cymraeg yn ôl canlyniadau Cyfrifiad 2021. Roedd yr un peth yn wir ddeng mlynedd yn ôl felly mae Cyngor Sir Gâr wedi dechrau mynd ati i geisio adfer y Gymraeg yn y sir felly mae ange i'r Llywodraeth weithredu nawr.

Arwyddwch y llythyr Agored i fynnu bod Llywodraeth Cymru yn sicrhau:

Addysg Gymraeg i Bawb
Deddf Addysg Gymraeg sy’n symud ysgolion ar hyd y llwybr tuag at addysg Gymraeg i bawb, ac yn cynllunio gweithlu digonol - fel na chaiff unrhyw ddisgybl ei amddifadu o’r gallu i siarad a gweithio yn Gymraeg.

Deddf Eiddo Gyflawn
Deddf Eiddo i sefydlu fod y stoc tai i'w hystyried yn adnoddau cymdeithasol i ddarparu cartrefi i bobl yn eu cymunedau, yn hytrach na bod yn asedau masnachol i greu elw hapfasnachol. Ble mae Papur Gwyn y Ddeddf Eiddo a Rhenti Teg?

Cynllunio Gwaith i Gynnal yr Iaith
Methodoleg glir i ddangos sut y gellir gwneud cynnal yr iaith a chymunedau Cymraeg yn un o amcanion strategaethau datblygu economaidd. Dylai’r economi wasanaethu’r bobl, nid fel arall!

Cynnal Cymunedau Gwledig a Bywoliaeth mewn Amaeth
Strategaeth glir ym maes amaeth a datblygu gwledig i wrthbwyso'r buddsoddiadau yn y dinas-ranbarthau ac i hybu cynaliadwyedd cymunedau gwledig. Mae cymunedau gwledig yn haeddu buddsoddiad hefyd!

Menter Ddigidol Gymraeg
Menter Ddigidol Gymraeg o bosibl â'i phencadlys yn Yr Egin, ar ben y Mentrau Iaith tiriogaethol, er mwyn sicrhau fod y Gymraeg yn weledol yn y cyfryngau diweddaraf. Yr un egwyddor â sefydlu S4C 40 mlynedd yn ôl.

Y Gymraeg yn Iaith Gwasanaethau Cyhoeddus
Gosod Safonau newydd ar gyrff o dan Fesur y Gymraeg 2011 gyda'r nod o sicrhau bod y Gymraeg yn dod yn brif iaith gwasanaethau cyhoeddus Sir Gâr – gan roi sylw arbennig i'r sector Iechyd a Gofal. Mae'n warth nad yw cynnal yr iaith a chymunedau Cymraeg yn un o Amcanion Llesiant sylfaenol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus y sir.

Y Gymraeg yn Iaith Gwaith
Dylai'r Gymraeg ddod yn brif iaith Prentisiaethau a Chyrsiau Galwedigaethol mewn cydweithrediad â’r Coleg Cymraeg. Sgil addysgol hanfodol yw’r gallu i weithio’n Gymraeg.

Arwyddwch y llythyr agored

Dwi'n rhoi caniatâd i Gymdeithas yr Iaith ddefnyddio'r canlynol er mwyn cysylltu ynglŷn â'n hymgyrchoedd a digwyddiadau:

Cysylltu dros y ffôn
Cysylltu trwy ebost

Mae gwybodaeth am sut dan ni'n defnyddio eich data yma cymdeithas.cymru/preifatrwydd