"150 o Dai – I BWY?" Cyfarfod Cyhoeddus ym Mhenrhyndeudraeth

08/02/2018 - 19:00

150 o Dai – I BWY?   

Dyna'r cwestiwn a drafodir yn y Neuadd Goffa, Penrhyndeudraeth  7.00 – 9.00 Nos Iau, Chwefror 8ed.

Siaradwyr: Elfed Roberts, Menna Machreth, Siân Cŵper

Fis Gorffennaf, 2017, daeth chwe mlynedd o ymgyrchu gan Gymdeithas yr Iaith i ben wrth i Gyngor Gwynedd bleidleisio dros y Cynllun Datblygu Lleol.O un bleidlais, pasiwyd cynllun i godi wyth mil o dai yng Ngwynedd a Môn erbyn 2026.

Canlyniad hyn yw fod gan ddatblygwyr mawr rwydd hynt i godi 150 o dai ym Mhenrhyndeudraeth. Gyda'r Gymraeg mewn sefyllfa fregus, a'r tai hyn yn sicr o fod yn anfforddiadwy i bobl leol, sut siâp fydd ar Penrhyn yn y blynyddoedd i ddod?

Yn ogystal ag effeithio ar iaith y pentref, bydd yn effeithio ar draffig, meddygfeydd ac ysgolion. Caiff yr ardal ei thrawsnewid a hynny heb gydsyniad trigolion yr ardal.

Yn y cyfarfod byddwn yn trafod beth fedrwn ni ei wneud ynglyn â'r sefyllfa. Gyda phobl ifanc yn gorfod byw gyda'i rheini, a'r henoed heb gartrefi addas, mae'n amlwg nad yw'r gwleidyddion yn gwrando ar yr hyn sydd ei angen.  

Tai er mwyn pobl leol, a thai i ateb y galw lleol – dyna sydd ei angen arnom.  Bydd croeso i bawb, a bydd lluniaeth yn dilyn y cyfarfod. Dewch i ddweud eich barn.