26/05/2021 - 19:00
Wrth geisio cyrraedd miliwn o siaradwyr, mae'n hollbwysig ymestyn allan at ein dysgwyr.
Dyma ddigwyddiad ar-lein arbennig i drafod sut gall unigolion, grwpiau a mudiadau gefnogi siaradwyr newydd yn ein cymunedau. Bydd y panel yn trafod sut mae mynd ati i wneud hyn ac yn rhannu enghreifftiau o arfer da.
Cadeirydd: Catrin Beard
Panel:
- Rob Evans (Cymdeithas Edward Llwyd)
- Arfon Hughes (papur bro Llygad y Dydd)
- Medi James (Pwyllgor Dysgu'r Gymraeg Eisteddfod Ceredigion)
- Lis McLean (Menter Iaith Merthyr – Canolfan Soar)
- Tegwen Morris (Merched y Wawr)
- Helen Prosser (Cynllun Siarad y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol)
Cynhelir y digwyddiad fel gweminar Zoom. Cysylltwch os hoffech dderbyn y ddolen i ymuno yn y digwyddiad.
Croeso cynnes i bawb. Croesewir cwestiynau (ar y noson neu o flaen llaw).