Cyfarfod Agored y Grŵp Hawl

29/04/2019 - 18:30

Cyfarfod Grŵp Hawl o Gymdeithas yr Iaith. Nos Lun y 29ain o Ebrill am 6.30pm yn Nhafarn y Queens, Caerfyrddin.

Byddwn yn trafod ein hymgyrch i fancio yn Gymraeg, digwyddiadau posib yn Eisteddfodau’r Urdd a’r Genedlaethol, y Safonau Iaith, a materion eraill.

Dewch i ddysgu mwy am waith y grŵp a sut gallwch chi helpu. Croeso mawr i aelodau newydd!

Os oes gennych ddiddordeb yng ngwaith o grŵp, ond na allwch ddod i’r cyfarfod, cysylltwch â post@cymdeithas.cymru.