Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Caerfyrddin

14/09/2013 - 11:00
Byddwn yn:
Adrodd nôl ar waith y flwyddyn ddiwethaf
Penderfynu blaenoriaethau’r flwyddyn i ddod
Llunio cynigion ar gyfer Cyfarfod Cyffredinol Cymdeithas yr Iaith
Ethol Cadeiryddion, Ysgrifennydd a Thrysorydd
 
Yn dilyn y cyfarfod blynyddol byddwn yn mynd ati i gynllunio ymgyrchoedd penodol, trafod codi arian, adloniant Eisteddfod Sir Gâr 2014 a mwy.
 
Yn ystod y cyfarfod blynyddol byddwn y ethol:
Cadeirydd – Cadeirio cyfarfodydd a sicrhau fod penderfyniadau y cyfarfodydd rhanbarth yn cael eu gweithredu.
Is-Gadeirydd – Cynorthwyo'r Cadeirydd
Ysgrifennydd – Cadw cofnodion a threfnu danfon a derbyn llythyron
Trysorydd – Yn gyfrifol am gyfrif y rhanbarth a chydlynu cyfrifon celloedd
Swyddog Codi Arian
 
Mae croeso i bob aelod o Gymdeithas yr Iaith ddod i’r cyfarfod a rhoi cynigion ac enwebiadau.
 
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Caerfyrddin
Dydd Sadwrn, 14eg o Fedi o 11

Festri Capel y Priordy

Mwy o fanylion: Bethan - 01559 384378 neu bethan@cymdeithas.org