Cyfarfod o Senedd Cymdeithas yr Iaith

02/03/2019 - 10:30

Ystafell Dinam, Canolfan Owain Glyndŵr, Machynlleth (SY20 8EE)

10.30, dydd Sadwrn, 2 Mawrth (bydd paneidiau'n barod o 10.00)

Mae croeso i unrhyw aelod o Gymdeithas yr Iaith ddod i gyfarfodydd y Senedd a'r Cyngor, a chyfrannu atynt, ond dim ond swyddogion etholedig a chyflogedig sydd gyda'r hawl i bleidleisio. Mae rhagor o fanylion am ein cyfarfodydd ac aelodaeth ein pwyllgorau yma: cymdeithas.cymru/y-senedd   
 

Cofiwch y canlynol hefyd.

  • Mae croeso i blant yn ein cyfarfodydd.

  • Mae swyddogion cyflogedig y Gymdeithas yn gallu cynnig lifftiau o nifer o leoedd yn y wlad.

  • Os yw costau trafnidiaeth neu ofal yn rhwystr rhag ddod i'r cyfarfod, gallwch wneud cais i hawliau'r costau yn ôl. Rydym ddim ond yn ystyried ceisiadau am gostau teithio mewn amgylchiadau pan nad oedd yn bosib i chi rannu trafnidiaeth gyda swyddogion eraill.     

  • Dylech chi gysylltu â'n swyddfa ganolog ar 01970 624501 cyn gwneud trefniadau teithio neu ofal rydych chi eisiau eu hawliau yn ôl rhag ofn bod modd i ni drefnu lifft neu wneud trefniant arall.

  • Mae holl fanylion cyswllt ein swyddfeydd i'w gael yma: cymdeithas.cymru/cyswllt

  • Bydd swyddogion yn trefnu cinio syml yn ystod cyfarfodydd sy'n para trwy'r dydd – croesewir cyfraniadau yn ôl gallu'r unigolyn i dalu.