"Dyfodol y Gymraeg yn Sir Gar" a Chyfarfod blynyddol Cymdeithas yr Iaith

14/07/2016 - 19:00

Queen's, Caerfyrddin

Cyfarfod agored i holl gefnogwyr Cymdeithas yr Iaith yn Sir Gâr

Y noson hon fydd union hanner can mlwyddiant buddugoliaeth Gwynfor yn isetholiad Caerfyrddin yn 1966.
Pa ffordd well o gofnodi'r achlysur na thrwy ddod i drefnu'r ymgyrch i sicrhau fod y sir yn parhau'n Gymraeg ei hiaith?
Ym mis Medi byddwn yn trefnu fforwm cyhoeddus "Tynged yr Iaith yn Sir Gar" i drafod strategaeth pum mlynedd y Cyngor Sir i wneud y Gymraeg yn brif iaith y sir. Pwysau gan y Gymdeithas ar y Cyngor Sir ers cyhoeddi canlyniadau Cyfrifiad 2011 sydd wedi arwain at hyn, nawr sut mae dwysau'r ymgyrchu?
Byddwch yn rhan o'r frwydr a gwahoddwch holl gyfeillion y Gymraeg yn y sir i ddod draw at y cyfarfod hwn.

5 mlynedd o waith - 50 mlynedd o ysbrydoliaeth gan Gwynfor

Hwn fydd cyfarfod blynyddol y rhanbarth hefyd, gan bydd cynnig sydd yn mynd at Gyfarfod Cyffredinol canolog y Gymdeithas sydd angen trafodaeth fer (mwy o fanylion yn agosach at yr amser) a byddwn ni'n dewis swyddogion ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Am ragor o wybodaeth neu i drefnu rhannu ceir cysylltwch: bethan@cymdeithas.cymru / 01559 384378