Eisteddfod yr Urdd - Enw uniaith Gymraeg i'n Senedd ni

31/05/2019 - 14:00
Lleoliad: Grisiau'r Senedd, Bae Caerdydd
Siaradwyr: Gwion Rhisiart (Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru) ac eraill
 
Er gwaetha’r cyhoeddiad y byddai’r Cynulliad Cenedlaethol yn newid ei enw i un uniaith Gymraeg, sef ‘Senedd’, mae’r Llywydd wedi gwneud tro pedol a chyflwyno Bil a fydd yn cynnwys yr enw ‘Welsh Parliament’ hefyd. Mae mabwysiadu enw a brand uniaith Gymraeg yn gyfle i atgyfnerthu’r syniad bod y Gymraeg yn gallu cynnwys pawb, o bob cefndir. Dewch i gefnogi ein galwad am enw uniaith Gymraeg i’n Senedd.