Grym, Gweithredu, Gobaith

01/04/2023 - 10:15

Cyfarfod cyhoeddus sy'n edrych ymlaen at y Gymru Rydd Werdd Gymraeg.

10.15-4.15, dydd Sadwrn, 1 Ebrill 2023

Neuadd Llanrhystud, Ceredigion

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi trefnu'r diwrnod hwn er mwyn trafod a rhannu syniadau ar sut gallwn symud ymlaen gyda'n gilydd at Gymru Rydd, Werdd. Gymraeg.

Mae'r diwrnod yn agored i bawb. Nodir y sesiynau isod:

  • 10:30 – Cymru Rydd, Cymru Werdd, Cymru Gymraeg: trafodaeth ar y maniffesto trwy brism ymateb i'r Cyfrifiad (dan arweiniad Mabli Siriol)
  • 13:30 – Ein hawl i brotestio (dan arweiniad Bethan Ruth)
  • 14:45 – Hawliau iaith: cyfle i werthuso'n hawliau iaith a thrafod camau nesaf ein hymgyrchu (dan arweiniad Sian Howys a Gwerfyl Roberts)
  • 16:15  Gorffen.

Noder na fyddwn yn darparu cinio ond mae llefydd yn y pentref ble gallwch brynu bwyd, gan gynnwys Stordy'r Wyre.

Mae'r diwrnod yn rhan o benwythnos breswyl i aelodau felly os ydych yn aelod, cliciwch yma i gael manylion pellach am y penwythnos.

Am unrhyw wybodaeth arall, ebostiwch post@cymdeithas.cymru