Ystafell Leri, Neuadd Rhydypennau, Bow Street (SY24 5BQ) – ac ar-lein
2.30, pnawn Sadwrn, 5 Hydref
Bydd y drafodaeth agored hon yn dilyn y Cyfarfod Cyffredinol.
Sail adroddiad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg a gyflwynwyd yn Awst 2024 yw fod y Gymraeg fel iaith gymunedol yn ei chadarnleoedd yn cael ei thanseilio gan broblemau seilwaith. Tra yn argymell yr un hawliau o ran defnyddio'r Gymraeg ledled Cymru, mae'r Comisiwn yn galw am gamau brys newydd ym maes datblygu economaidd mewn "Cymunedau Cymraeg".
Mae pob cymuned yng Nghymru ar lwybr i fod yn gymuned Gymraeg felly byddwn ni'n cynnal trafodaeth agored ar sut gallai cymunedau fod â rôl arweiniol yn y meysydd hynny, a budd hynny i greu cymunedau Cymraeg cynaliadwy.
Ein gobaith yw y bydd cymaint o bobl â phosibl yn ymuno â ni yn Neuadd Rhydypennau ond os yw hynny, mae croeso i chi ymuno dros Zoom. Cysylltwch am ddolen.