Gweithredu uniongyrchol yn erbyn y Llywodraeth? Cyfarfod Cyngor

18/01/2014 - 10:00

Canlyniadau’r Cyfrifiad - Oes angen ymgyrch gweithredu uniongyrchol yn erbyn Llywodraeth Cymru?

Cyfarfod Cyngor, Dydd Sadwrn 18fed Ionawr o 10yb - 3yp

Capel Seion, Stryd y Popty, Aberystwyth

Ydy Llywodraeth Cymru wedi gwneud digon i ymateb i argyfwng canlyniadau’r Cyfrifiad? Dyna fydd prif bwnc trafod y Cyfarfod Cyngor Cymdeithas yr Iaith sy’n cael ei gynnal yn Aberystwyth ar ddydd Sadwrn 18fed Ionawr o 10 y bore tan 3 y prynhawn. Yn y cyfarfod byddwn ni’n penderfynu a ddylen ni gychwyn ymgyrch gweithredu uniongychol yn erbyn Llywodraeth Cymru yn dilyn ei hymateb - neu ddiffyg ymateb - i ganlyniadau’r Cyfrifiad.

Daw’r cyfarfod ar y 18fed bron i 6 mis ers i ni yrru llythyr yn mynnu bod Llywodraeth Cymru yn gweithredu trwy ddangos arweiniad yn y 6 maes canlynol (ein “6 pheth”):

1. Addysg Gymraeg i Bawb

2. Tegwch Ariannol i'r Gymraeg

3. Gweinyddu'n fewnol yn Gymraeg

4. Safonau Iaith i Greu Hawliau Clir

5. Trefn Cynllunio er budd ein Cymunedau

6. Y Gymraeg yn greiddiol i Ddatblygu Cynaliadwy

Bydd trafodaeth agored yn y prynhawn - cyfle i chi holi unrhyw gwestiynau a chael dweud eich dweud am safbwyntiau polisi y gymdeithas.

Cofiwch fod croeso i unrhyw aelod o’r Gymdeithas mewn cyfarfodydd Cyngor.