Hybu'r Chwyldro drwy'r Sîn Roc Gymraeg

10/01/2015 - 13:00

1pm, Dydd Sadwrn, 10fed Ionawr

Canolfan Merched y Wawr, Stryd yr Efail, Aberystwyth

Yng nghwmni Pat Morgan, Rhys Mwyn, Griff Lynch, a Toni Schiavone.

Sut mae’r berthynas rhwng Cymdeithas yr Iaith a’r sîn gerddoriaeth Gymraeg wedi esblygu dros y degawdau diwethaf? Beth yw’r berthynas rhwng y sîn a gwleidyddiaeth erbyn hyn? A yw’r sîn yn dal i herio a chodi cwestiynau am y Gymru sydd ohoni? Beth yw lle Cymdeithas yr Iaith yn hyn oll?

Dewch i glywed Pat Morgan, Rhys Mwyn, Griff Lynch a Toni Schiavone yn mynd i’r afael â’r cwestiynau yma a llawer mwy.

Bydd cyfarfod o Gyngor y Gymdeithas yn dechrau am 10yb, gyda'r drafodaeth yma'n dechrau am 1 y prynhawn - croeso cynnes i holl aelodau a chefnogwyr Cymdeithas yr Iaith.