Rali: Atal 8,000 o dai

28/07/2017 - 13:15

Siambr y Cyngor Caernarfon

Siaradwyr yn cynnwys: Menna Machreth, Angharad Tomos, Ieu Wyn ac eraill

Dewch draw i gydsefyll mewn gwrthwynebiad.

 

RHESYMAU DROS WRTHOD MABWYSIADU CYNLLUN DATBLYGU LLEOL AR Y CYD GWYNEDD A MÔN

• NIFEROEDD Y TAI YN RHY FAWR
 
Mae’r Cynllun yn datgan bod niferoedd y tai, sef 7,902 rhwng y ddwy sir, yn darparu ar
gyfer twf yn y boblogaeth. Mae’r twf yn seiliedig ar fewnlifiad, felly mae’r Cynllun yn
darparu ar gyfer mewnlifiad a thrwy hynny yn ei hyrwyddo. Y drefn oedd pennu
cyfansymiau sirol ar gyfer Gwynedd ac ar gyfer Môn a dosrannu’r niferoedd i’r cymunedau.
Mae hyn yn gwbl annerbyniol . Dylai’r cyfansymiau fod wedi cael eu seilio ar ddiwallu angen
lleol yn y cymunedau.
 
• ASESIAD IAITH DIFFYGIOL
Yn wahanol i asesiadau ar agweddau eraill o’r Cynllun, ni chomisiynodd yr Uned Polisi
Cynllunio ar y Cyd asesiad annibynnol o’i gynaliadwyedd ieithyddol. Cyflawnwyd y gwaith
gan yr Uned, er ei bod yn cydnabod nad oedd o’i mewn arbenigedd yn y maes.
Penderfynodd y mudiadau iaith gomisiynu asesiad annibynnol gan ymgynghoriaeth iaith
Hanfod. Daeth yr astudiaeth i’r casgliad bod y Cynllun yn darparu gormod o dai ac mai’r
canlyniad fyddai gwanychu sefyllfa’r Gymraeg. Cafodd yr asesiad annibynnol ei ddiystyru
gan yr Uned. Atodwn gopi o asesiad llawn Hanfod sy’n cynnwys proffiliau o’r ddwy sir.
 
• POLISI IAITH DIFFYGIOL
Nid yw Polisi Strategol 1 (Yr Iaith a’r Diwylliant Cymraeg) y Cynllun yn gwarchod yr iaith.
Mae’r polisi yn caniatáu datblygiadau niweidiol os gellir lleihau rhyw gymaint ar y niwed
trwy fesurau lliniaru. Mae Siân Gwenllian AC a Llyr Huws Gruffydd AC wedi datgan bod y
polisi hwn yn annerbyniol.
 
• AROLWG DIFFYGIOL
Fel rhan o’u tystiolaeth yn sail i’r Cynllun, cynhaliodd y ddau gyngor sir ‘Arolwg Tai ac Iaith
Gwynedd ac Ynys Môn’ rhwng Medi a Thachwedd 2013, ond dangosodd yr ystadegydd Hywel
Jones (Statiaith) fod diffygion difrifol yn y fethodoleg a ddefnyddiwyd. Ei asesiad ef o’r
arolwg oedd ei fod yn annilys yn ystadegol a’r casgliadau’n annibynadwy. Gweler gwefan
Statiaith: https://statiaith.com/blog/amrywiol/arolwg-tai-ac-iaith-gwynedd-ac-ynys-mon/
 
• CANRAN TAI FFORDDIADWY YN RHY ISEL
Mae canran y tai fforddiadwy mewn datblygiad wedi ei gosod mor isel â 10%. Mae
tystiolaeth o’r angen am dai fforddiadwy yn dangos y dylai’r ganran fod yn llawer iawn
uwch. Bydd y polisi hwn yn golygu mai tai marchnad agored fydd 90% o’r datblygiadau tai
hyn.
 
• NIFER CYMUNEDAU’R POLISI MARCHNAD TAI LLEOL YN RHY FACH 
Dim ond mewn nifer cyfyngedig iawn o gymunedau y bydd y polisi o gyfyngu tai i bobl leol
yn unig yn cael ei weithredu.
 
• LLAI O ARDALOEDD I GAEL CLWSTWR
Bydd llai o fân bentrefi ac ardaloedd gwledig yn cael clwstwr, sef nifer fach o dai. Bydd hyn
yn nacáu’r cyfle i nifer o gymunedau sicrhau cynaliadwyedd a thwf naturiol trwy ddiwallu
angen lleol.
 
• DIM DATBLYGU GRADDOL
Ni fydd modd gosod amod ar ddatblygwyr i ddatblygu’n raddol, sef codi nifer penodol o dai
ar y tro yn unol ag amserlen gytunedig.