Penwythnos Amgen i Ddysgwyr - Tresaith

09/02/2018 - 18:00

Bydd penwythnos amgen Cymdeithas yr Iaith i ddysgwyr yn gyfle i gymdeithasu, gweld mwy ar Orllewin Cymru, ymuno â sesiynau difyr a chlywed am brofiadau pobl eraill o ymgyrchu. Ymysg gweithgareddau wedi'u cadarnhau mae taith gerdded ym Mwnt gyda Cherddwyr Cylch Teifi, adloniant gan Gregg Lynn, taith hamddenol dan arweiniad Terwyn Tomos a sgwrs gan Kees Huysmans wnaeth sefydlu cwmni Waffls Tregroes.

Bydd y penwythnos yn addas ar gyfer dysgwyr ar lefel Canolradd neu uwch.

Mae lle i bawb aros yng nghanolfan Tresaith, sydd wedi ei gynnwys yn y pris. Os ydych chi’n byw yn lleol ond â diddordeb dod i rai sesiynau, cysylltwch.

Bydd angen cadw lle er mwyn dod, cliciwch yma i gadw lle.
Mwy o wybodaeth: post@cymdeithas.cymru