Mae mwy a mwy o bobl yn siopa yn Aldi, mae ganddyn nhw dair siop yn Sir Gaerfyrddin ond does dim Cymraeg yn eu siopau o gwbl - a braidd dim staff gyda nhw sydd yn siarad Cymraeg. Danfon neges atyn nhw i ddweud dy fod di eisiau byw yn Gymraeg - a siopa yn Gymraeg!
Mae neges barod isod fydd yn mynd yn syth at y cwmni neu gelli di ddanfon dy neges dy hun at customer.service@aldi.co.uk neu adael llythyr yn y siop neu ei bostio at sylw'r rheolwr i:
Caerfyrddin: 16 Ffordd Steffan, Caerfyrddin, SA31 2BG
Cross hands: Ffordd Llandeilo, Cross Hands SA14 6RD
Llanelli: Swanfield Place, Llanelli SA15 3PW
Cofia roi gwybod pa ymateb fyddi di'n ei gael drwy gysyllta gyda Bethan - bethan@cymdeithas.org neu 01559 384378
Testun : Darpariaeth Gymraeg Aldi Welsh Language Provision