Cyfrannu a Chodi Arian

Mudiad gwirfoddol yw Cymdeithas yr Iaith. Yn wahanol i nifer o gyrff neu sefydliadau eraill, nid yw'r mudiad yn derbyn unrhyw grant neu gymorth ariannol. Yn hytrach, mae'n dibynnu yn llwyr ar haelioni aelodau a chefnogwyr.

Does dim amheuaeth fod angen ymgyrchu mewn sawl maes er mwyn sicrhau dyfodol sicr i'r Gymraeg a'n cymunedau. Wrth gwrs mae hyn yn waith costus. Mae costau sylweddol  yn gysylltiedig gyda'r gwaith o drefnu'r cyfarfodydd, y raliau a'r cynadleddau cyson sydd yn anghenrheidiol os ydym am i'n galwadau dderbyn sylw difrifol.

Felly, beth am gyfrannu at waith Cymdeithas yr Iaith? Defnyddia'r ffurflen yma i wneud cyfraniad arlein.

Faint wyt ti am ei gyfrannu?

Cyfraniad i'r Gymdeithas

Archebion Banc

Archebion Banc yw'r unig incwm cyson sydd gan Gymdeithas yr Iaith. Dim ond ar sail cyfraniadau sefydlog o'r fath y gallwn gynllunio yn effeithiol ar gyfer y dyfodol a chyflogi staff i weithio'n llawn amser.

Beth am lenwi archeb banc i'r Gymdeithas?

£5 y mis - pris 2 beint
£10 y mis - pris cryno ddisg

Gelli di sefydlu archeb banc ar-lein os wyt ti wedi cofrestru i dderbyn gwasanaeth arlein gyda dy fanc. Mae HSBC, Natwest a'r Co-op yn cynnig y gwasanaeth yma, ac mae'n debygol iawn bod gweddill y banciau yn cynnig yr un gwasanaeth hefyd. Bydd angen i ti gysylltu gyda dy gyfrif arlein trwy'r dull arferol, a wedyn mynd i'r adran Archebion banc (Standing Orders). Dyma'r manylion y bydd angen arnat:

Enw y cyfrif: Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Côd trefnu: 40-16-02
Rhif y Cyfrif: 81072102

Os nag wyt ti wedi cofrestru am wasanaeth arlein gyda dy fanc, pwysa yma i ddadlwytho'r archeb banc. Gelli di wedyn ei argraffu a'i ddanfon at Swyddfa'r Gymdeithas. Cofia mai hwn yw unig incwm sefydlog y Gymdeithas ac felly byddwn yn gwerthfawrogi'n fawr os gelli di argraffu'r ffurflen a'i ddanfon at Swyddfa'r Gymdeithas.