Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi ei lwgrwobrwyo gan Lywodraeth Cymru i wanhau ein hawliau i’r iaith
Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi gwneud ymdrech fwriadol i leihau nifer a chanran yr ymchwiliadau am ddiffyg gwasanaethau Cymraeg a gynhelir ganddo, a hynny er mwyn sicrhau rhagor o gyllid a chyfrifoldebau o du Llywodraeth Cymru.
Mae’n gamymddygiad difrifol.
Mae’r Comisiynydd y Gymraeg, a ddechreuodd ei swydd ym mis Ebrill eleni, wedi bod yn ymchwilio i lai na 40% o’r cwynion a dderbynnir ganddo - hanner lefel ei ragflaenydd.
Heb ymchwiliad statudol i gŵyn, nid oes modd i’r Comisiynydd ddefnyddio ei bwerau i sicrhau bod gwasanaethau Cymraeg cyrff yn gwella.
Mae deddfwriaeth yn gwahardd y Llywodraeth rhag cyfarwyddo’r Comisiynydd am sut i ddefnyddio ei bwerau gorfodi. Ond, darganfuwyd gohebiaeth oddi wrth Weinidog y Gymraeg at y Comisiynydd yn pwyso arno i gynnal llai o ymchwiliadau. Ers hynny mae’r Comisiynydd wedi cael ei longyfarch gan Weinidog y Gymraeg am ystadegau sy’n dangos bod yn ymchwilio i lai o gwynion.
Mewn papur mewnol y Llywodraeth o fis Ebrill eleni, sydd newydd ei ryddhau’n gyhoeddus, dywedodd gweision sifil: “… byddwn yn disgwyl i'r Comisiynydd o leiaf newid ei ffocws o fod yn rheoleiddiwr sy'n ymateb i gwynion … pe bai'r swyddfa'r Comisiynydd yn newid ei ffocws fel y nodwyd uchod ..., y byddai'r Llywodraeth yn ystyried wedyn a ddylid trosglwyddo cyfrifoldebau pellach i'r Comisiynydd.” Mae’r papur yn mynd ymlaen i argymell: “Is-adran y Gymraeg [Llywodraeth Cymru] i sefydlu gweithdrefnau newydd ar gyfer noddi’r Comisiynydd gyda’r nod fod y Comisiynydd yn newid pwyslais wrth weithredu ei swyddogaethau rheoleiddio."
Nid buddiannau’r Gymraeg a’i siaradwyr sydd wrth wraidd y newid polisi a’r penderfyniad i gynnal llawer llai o ymchwiliadau, ond ymgais i gynyddu cyllideb ac adnoddau’r Comisiynydd a’i swyddfa.
Mae’r ohebiaeth yn dangos bod y Comisiynydd wedi newid ei ddefnydd o’i bwerau a pholisïau gorfodi ar gais y Llywodraeth - dyw e ddim yn rheoleiddio’n annibynnol!
|
|
|
Yr Ohebiaeth
|
|
|
|
|
|
Gohebiaeth
|
Dyddiad
|
Crynodeb o’r cynnwys
|
Gweinidog y Gymraeg i’r Comisiynydd
|
26 Tachwedd 2018
|
Cais clir gan y Gweinidog i’r Comisiynydd leihau’r canran o ymchwiliadau i gwynion.
|
Comisiynydd i Weinidog y Gymraeg
|
5ed Chwefror 2019
|
Comisiynydd yn cadarnhau ei fod yn fodlon ystyried cynnal llai o ymchwiliadau yn dilyn gohebiaeth ac anogaeth y Gweinidog.
|
Comisiynydd i Weinidog y Gymraeg
|
1af Awst 2019
|
Y Comisiynydd yn brolio ei fod wedi torri lawr nifer a chanran yr ymchwiliadau yn dilyn cais gan y Gweinidog gan atodi ystadegau i bwysleisio hynny a chan ddiolch i’r Gweinidog: “Rwy’n ddiolchgar i chi am eich arweiniad ar y mater hwn.”
|
Gweinidog y Gymraeg i’r Comisiynydd
|
4ydd Medi 2019
|
Y Gweinidog yn llongyfarch y Comisiynydd ar gynnal llai o ymchwiliadau i gwynion gan ddweud ei bod yn ‘croesawu’ yr ystadegau ‘calonogol’.
|
Papur polisi Gweinidog y Gymraeg
|
9 Ebrill 2019
|
Tystiolaeth bod y Llywodraeth yn benderfynol bod y Comisiynydd yn lleihau’r pwyslais ar reoleiddio ac yn cynnig cynyddu ei gyfrifoldebau (ac o ganlyniad cyllideb) os yw hynny’n digwydd.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Llai o ymchwiliadau gan Gomisiynydd y Gymraeg
Blwyddyn
(Comisiynydd wrth y llyw)
|
Ebrill - Medi 2016 (Meri Huws)
|
Ebrill - Medi 2017 (Meri Huws)
|
Ebrill - Medi 2018 (Meri Huws)
|
Ebrill - Medi 2019 (Aled Roberts)
|
Nifer y cwynion dilys
|
63
|
56
|
84
|
110
|
Nifer y cwynion annilys
|
38
|
2
|
2
|
10
|
Nifer yr ymchwiliadau statudol agorwyd
|
39
|
40
|
66
|
43
|
Penderfynu peidio ymchwilio
|
27
|
16
|
20
|
65
|
Canran ymchwilio
|
61%
|
71%
|
78.5%
|
39%
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|