Galwad ar Lywodraeth Cymru i gryfhau addysg Gymraeg

Mae'n cadeirydd cenedlaethol, Mabli Siriol, heddiw wedi ysgrifennu at y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams er mwyn galw arni i gryfhau addysg Gymraeg ym mhob cornel o Gymru cyn diwedd y tymor Seneddol. Er mwyn cyflawni hyn, gofynnwn i'w Llywodraeth: fabwysiadu Cod ar gyfer Addysgu’r Gymraeg ar Un Continwwm; roi cyfarwyddyd i Gymwysterau Cymru ddatblygu cymhwystrer Cymraeg cyfun; a chryfhau rheoliadau ysgolion gwledig.

Darllenwch y llythyr isod:

AtodiadMaint
Llythyr at y Gweinidog Addysg (08_02_21).pdf113.9 KB