Maniffesto Byw - Cynllun Gweithredu dros Iaith, Gwaith a Chymuned

 

Maniffesto byw ar gyfer cymunedau byw

Cynllun Gweithredu dros Iaith, Gwaith a Chymuned

Gorffennaf 2013

Trafodaeth gyhoeddus ledled cymunedau Cymru ynglŷn â’r blaenoriaethau i gynnal a datblygu’r Gymraeg ym mhob rhan o Gymru.

Nid oes amheuaeth bod canlyniadau Cyfrifiad 2011 yn amlygu’r argyfwng sy’n wynebu’r Gymraeg. Bu gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg ym mhob rhan o Gymru. Bu’r gostyngiad mwyaf yn yr ardaloedd lle mae'r Gymraeg ar ei chryfaf.

Yn ei hanfod mae’r maniffesto hwn yn floedd ‘Dwi eisiau byw yn Gymraeg’ fel a glywyd mewn ralïau ar draws Cymru yn ystod y misoedd diwethaf. Credwn fod modd newid tynged y Gymraeg gydag ewyllys wleidyddol ac ymgyrchu cadarnhaol a chyfranogol. Yn y ddogfen hon, rydyn ni’n amlinellu rhaglen waith sy’n ddechreubwynt ar gyfer newid tynged yr iaith - a gwrth-droi’r dirywiad dros y ddegawd a fu - yn ein cymunedau ac yn genedlaethol.

Mae’r maniffesto hwn, felly, yn cynnwys syniadau ymarferol, realistig a ellid eu gweithredu yn 2013/14 gan ein Llywodraeth yng Nghymru, ein hawdurdodau lleol a’n holl sefydliadau cenedlaethol a lleol yn ogystal â ni ein hunain. Y mae’r polisïau a gynhwysir yma yn seiliedig ar araith Tynged yr Iaith II, sef cyfeiriad newydd a osodwyd gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ar gyfer ei gweithgarwch ar ben-blwydd y mudiad yn hanner cant. Neges araith Tynged yr Iaith II oedd bod degawdau o ymgyrchu wedi sicrhau y bydd y Gymraeg yn goroesi. Y cwestiwn bellach yw - pa fath o ddyfodol fydd hwnnw? Iaith dosbarth, iaith dogfeniaeth sych, iaith arwyddion - neu - briod iaith ein cenedl a’n cymunedau?

Fodd bynnag, nid ydym fel Cymdeithas yn honni mai ni sydd â’r holl atebion (yn unol â’r dull di-drais o ymgyrchu). Dyna paham y gwahoddwyd pobl ar draws Cymru i ymateb i’r ddogfen hon. Pleidleisiwyd ar welliannau i’r Maniffesto Byw ar sail yr ymatebion hynny ar yr 8fed o Fehefin, 2013. Byddwn yn parhau i gasglu ymatebion i’r ddogfen ac yn barod i gydweithio ag unrhyw un sydd eisiau mynd i’r afael â’r materion a godir yma. Galwn ar bobl Cymru i rymuso eu hunain ynghyd â’r gymuned y maent yn rhan ohoni, ac i ddatgan eu bod eisiau byw yn Gymraeg.

post@cymdeithas.org 01970 624501

CRYNODEB

Mae canlyniadau’r Cyfrifiad yn dangos na chyflawnwyd dau o brif amcanion strategaeth iaith flaenorol Llywodraeth Cymru Iaith Pawb: bu gostyngiad nid yn unig yn y canran o siaradwyr Cymraeg, o 21% i 19%, ond hefyd yn y nifer o wardiau gyda dros 70% yn medru’r iaith. Yn fras, ymddengys fod tua 3,000 yn llai o siaradwyr Cymraeg bob blwyddyn.

Dengys y ffigyrau nifer o’r ffactorau sy’n dylanwadu ar gyflwr yr iaith. Amlygir mai allfudo - megis pobl ifanc yn gadael eu cymunedau i chwilio am waith - yw un o'r prif ffactorau a arweinia at argyfwng yr iaith. Dyma pam bod yr adran gyntaf (1.1 - 1.11) yn canolbwyntio ar bolisïau fyddai’n creu gwaith lle mae ei angen a chryfhau cyfraniad polisïau cyflogaeth

Credwn bod y Gymraeg yn eiddo i bawb yn Nghymru - ni ddylid ei ystyried yn ran opsiynol o ddiwylliant leiafrifol, ond yn hytrach yn hawl i bawb, gan gynnwys y rhai di-Gymraeg. Dylai’r safonau iaith (3.7) a pholisi addysg (4.1) adlewyrchu hynny.

Dyma’r rhai o’r pwyntiau dylai’r Llywodraeth fynd i’r afael â nhw ar frys:

  • Wrth brynu gwasanaethau, mae angen rhoi blaenoriaeth i gwmnïau lleol bychain a chanolig eu maint, er mwyn creu swyddi a sicrhau bod gwasanaeth Cymraeg, ac osgoi sefyllfeydd lle mae cwmni o Loegr yn torri gwair ar ran cyngor sir, er enghraifft. (1.8)

  • Mae datblygiadau tai Penybanc (Sir Gaerfyrddin), Bodelwyddan (Dinbych) a Choetmor (Gwynedd) yn dangos bod y system gynllunio yn peryglu’r Gymraeg. Rhaid sicrhau nad yw datblygiadau tai anaddas yn cael eu caniatáu eto - gall y Llywodraeth wneud hyn drwy gyhoeddi fersiwn newydd o Nodyn Cyngor Technegol 20 (TAN 20), a sicrhau ei fod mor gryf â phosib (daeth yr ymgynghoriad arno i ben 2 flynedd yn ôl). Dylent hefyd atal pob cynllun datblygu unedol tan fydd asesiad wedi ei wneud o’i effaith ar y Gymraeg, sicrhau bod cynghorwyr yn gallu gwrthod cais cynllunio ar sail yr effaith ar y Gymraeg, gwneud asesiadau effaith iaith yn ofyniad statudol, a gosod TAN 20 ar sail statudol. (2.1)

  • Cynyddu gwariant ar y Gymraeg - o ddilyn enghraifft gwlad y Basg byddai'r Llywodraeth yn gwario 4 gwaith yn fwy ar brosiectau penodol Cymraeg. (3.1)

  • Mae angen hawliau iaith clir yn y “safonau iaith” newydd, pethau fel yr hawl i wersi ar ôl ysgol i blant yn y Gymraeg, yr hawl i ddysgu'r Gymraeg a'i defnyddio yn y gweithle, a'r hawl i gleifion dderbyn gofal iechyd yn yr iaith. (3.7)

  • Mae angen dileu “Cymraeg ail iaith” fel pwnc - dylai’r Llywodraeth ddangos fod y Gymraeg yn perthyn i bawb yng Nghymru trwy ddatgan yn syth ei fod am sicrhau bod pob disgybl yn astudio Cymraeg, gyda system continwwm. (4.2)

Ond ar hyn o bryd, nid yw Llywodraeth Cymru yn dangos y weledigaeth, yr arweiniad na’r ymrwymiad sydd eu hangen er mwyn gwella sefyllfa’r Gymraeg. Dylent fod yn cydnabod maint yr her, ac yn mabwysiadu polisïau blaengar ar frys. Maent yn methu â gwneud hynny ar hyn o bryd, fel mae eu hymateb i fersiwn cyntaf y Maniffesto hwn yn ei ddangos. Mae’r atebion, felly yn dechrau gyda phob un ohonom - rhaid dangos ein bod eisiau byw yn Gymraeg a helpu eraill i wneud hynny.

UN: GWAITH

Cred Cymdeithas yr Iaith Gymraeg fod angen i’r Gymraeg fod yn iaith economi os yw’r iaith i gael ei defnyddio yn ein cymunedau. Mae tlodi economaidd Cymru yn un o’r ffactorau sy’n arwain at allfudiad miloedd o Gymry Cymraeg bob blwyddyn.

  1. Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a sefydliadau cenedlaethol eraill i sicrhau bod y swyddi sydd ar gael mewn swyddfeydd rhanbarthol yn cynnwys amrediad o gyfleoedd gwaith ac amrediad o gyflogau. Llywodraeth Cymru, pleidiau gwleidyddol, undebau a sefydliadau cenedlaethol i lunio strategaeth economaidd sydd yn rhoi pwyslais ar ddatganoli swyddi oddi mewn i Gymru e.e. Cynllun Datganoli Swyddi Llywodraeth Cymru – cadarnhau a chryfhau swyddfeydd Caerfyrddin, Aberystwyth, Caernarfon, Cyffordd Llandudno. Galw ar sefydliadau cyhoeddus eraill i wneud yn yr un modd – gan gynnwys mudiadau yn y trydydd sector sy'n cael arian cyhoeddus a sefydliadau cyfryngol fel S4C. Dylai'r llywodraeth gynnig cefnogaeth i gwmnїau symud o ardaloedd twf i lefydd eraill yng Nghymru, ac fel rhan o'r cytundeb cefnogaeth dylsent sicrhau fod canran o’r gweithlu â sgiliau cyfathrebu Cymraeg.

  1. Oherwydd diffyg cyfalaf mewn ardaloedd tlawd, a diffyg rhwydweithiau i gefnogi mentergarwch, dylid cynnig mwy o gefnogaeth (yn ariannol a thechnegol) i'r sector cydweithredol, gyda thargedau pendant i greu swyddi yn yr ardaloedd lle mae’r Gymraeg ar ei chryfaf.

  1. Sefydlu Marchnad Llafur Cyfrwng Cymraeg – dylid mynd ati ar frys i fonitro’r angen am weithlu cyfrwng Cymraeg mewn sectorau a lleoliadau ledled Cymru a chynllunio i ateb y galw am weithlu â sgiliau iaith Gymraeg, gan gynnwys sicrhau cynllun hyfforddiant uchelgeisiol Cymraeg yn y gweithle. Dylid dechrau gyda’r cyflogwyr mawr lle mae angen y ddarpariaeth, megis y gwasanaeth iechyd, gwasanaethau cymdeithasol ac addysg uwch ac addysg bellach.

  1. Dylid creu prentisiaethau drwy'r Farchnad Llafur Cymraeg a threfnu hyfforddiant sgiliau cyfrwng Cymraeg ledled Cymru, yn benodol sgiliau hwyluso diwydiannau a mentrau cydweithredol.

  1. Newid cylch gorchwyl y Mentrau Iaith i fod yn "Mentrau Iaith a Gwaith" gyda chyfrifoldeb penodol a chyllideb i hyrwyddo mentergarwch trwy gyfrwng y Gymraeg a hyrwyddo defnydd o'r Gymraeg ym myd busnes. Adolygu cylch gwaith rhai o'r mentrau gan adlewyrchu'r enghreifftiau o arfer gorau yn y maes. Sicrhau cydlynedd llawer iawn mwy effeithiol rhwng y mentrau yn genedlaethol trwy benodi Cyfarwyddwr a Phwyllgor Llywio Cenedlaethol.

  1. Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, y gwasanaeth iechyd a gwasanaethau cyhoeddus eraill i lunio cynlluniau gweithredu tymor byr fel man cychwyn i ddatblygu ac i hyrwyddo defnydd o'r Gymraeg yn y gweithle. Dylai hyn gynnwys sicrhau bod mwy o swyddi yn cael eu hysbysebu lle mae'r Gymraeg yn hanfodol, mwy o gyfleoedd hyfforddiant mewn swydd i loywi'r Gymraeg ac i ddysgu Cymraeg a chyrsiau ymwybyddiaeth iaith traws sector er mwyn datblygu dealltwriaeth ac ennill cefnogaeth i'r cynlluniau yma ymysg y rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg. Cydweithio gydag undebau llafur i lunio rhaglen gyfatebol ymysg yr undebau.

  1. Cefnogi a chydweithio gydag undebau llafur i ddiogelu swyddi ac amodau gwaith yn y sector cyhoeddus a datblygu dealltwriaeth ymysg y cyhoedd o bwysigrwydd y swyddi hyn yn yr ardaloedd gwledig a'r ardaloedd Cymraeg yn arbennig.

  1. Polisi caffael pob corff a ariennir yn gyhoeddus yng Nghymru i roi blaenoriaeth i gwmnïau o'r ardal lle mae'r gwaith yn cael ei wneud ac i gwmnïau o Gymru dros gwmnïau o bell - er mwyn lleihau'r pellter a deithir a sicrhau bod swyddi yn cael eu creu yn ein cymunedau. Dylid sicrhau yn ogystal bod mwy o gyfleoedd i gwmnïau bach a chanolig eu maint i dderbyn tendrau yn ogystal â chwmnïau mawr. Ymhob achos, dylid sicrhau bod darpariaeth Gymraeg cwmni sy'n derbyn tendr cystal neu'n well nag un y corff cyhoeddus sy'n talu am y gwaith.

  1. Llunio cynllun gweithredu i annog cyflogwyr Cymru, gan gynnwys y sector cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector i hyrwyddo gwerth masnachol defnyddio'r Gymraeg. Annog y cyhoedd i gefnogi busnesau a gwasanaethau sy'n hyrwyddo'r Gymraeg ac sy’n gwneud ymdrech i ddefnyddio'r Gymraeg.

  1. Dylid cefnogi rhagor o ffyrdd i fagu mentergarwch yn ein cymunedau. Un ffordd o wneud hyn byddai i sefydlu rhwydwaith o fusnesau Cymraeg a fyddai’n cynnig cefnogaeth ac arweiniad o ran hyfforddiant a dechrau busnesau Cymraeg newydd. Dylid sefydlu Ffederasiwn Cydweithredol Busnesau Cymraeg Cymru i fanteisio ar y brwdfrydedd a'r gweithgarwch sydd eisoes yn y Gymraeg ar-lein i hybu a gwireddu hyn.

  1. Dylai cyrff cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, ddilyn esiampl Cyngor Gwynedd drwy symud at weinyddu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg. Wrth ystyried ad​-drefnu llywodraeth leol, dylid sicrhau bod rhagor o awdurdodau lleol yn gweinyddu trwy gyfrwng y Gymraeg. Dylid sefydlu tasglu dan adain Comisiynydd y Gymraeg i symud y broses hon yn ei blaen.

DAU: TAI A CHYNLLUNIO

Mae diffyg Llywodraeth Cymru ers datganoli ym maes tai a chynllunio wedi golygu bod strategaethau iaith Gymraeg ledled Cymru wedi cael eu tanseilio gan ddatblygiadau tai. Rydym yn parhau i aros am y Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 20 newydd. Datgelodd y Gymdeithas mai dim ond tri awdurdod lleol sydd wedi cynnal asesiad o effaith datblygiadau ar y Gymraeg yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, ac mai dim ond 16 asesiad a wnaed o blith 60,000 o geisiadau cynllunio (0.03%). Ymhellach, profwyd diffyg ymrwymiad y llywodraeth ym mhapur gwyn y Bil Cynaliadwyedd oherwydd ni roddwyd ystyriaeth i’r Gymraeg fel rhan o’r agenda cymunedau cynaliadwy.

  1. Dylid cyhoeddi fersiwn diwygiedig TAN 20 cyn gynted â phosib. Dylai cynghorau yn ogystal â datblygwyr gynnal Asesiadau Effaith Iaith a rhoi sail statudol i hyn gan adolygu’r sefyllfa yn flynyddol i sicrhau y gweithredir hyn. Galwn ar Gomisiynydd y Gymraeg i adolygu pob Cynllun Datblygu arfaethedig neu sydd ar waith er mwyn asesu’r effaith ar y Gymraeg gan na wneir hynny’n ddigonol ar hyn o bryd gan TAN 20.

  1. Pob awdurdod cynllunio i adolygu eu cynlluniau ardal, gan seilio'r cynlluniau ar anghenion lleol ac ar gryfhau cymunedau a safle'r Gymraeg, gan ddileu cynlluniau presennol a chreu rhai newydd yn eu lle pan fo angen. Dylent adolygu’r sefyllfa yn flynyddol.

  1. Sicrhau bod y Gymraeg yn ganolog i’r Biliau Cynaliadwyedd a Chynllunio newydd trwy, ymysg pethau eraill, gynnwys lles y Gymraeg fel priod iaith Cymru fel rhan o’r diffiniad statudol o ddatblygu cynaliadwy a gosod asesiadau effaith iaith datblygiadau ar sail statudol drwy ddeddfwriaeth sylfaenol.

  1. Llunio a gweithredu Mesur i asesu'r angen lleol am dai cyn datblygu; sicrhau'r hawl i gartref am bris teg (i'w rentu neu i'w brynu) yng nghymuned y person sy'n rhentu neu brynu; blaenoriaeth i bobl leol drwy'r system bwyntiau tai cymdeithasol; system gynllunio sydd yn gweithio er budd y gymuned; sicrhau ailasesu caniatâd cynllunio blaenorol.

  1. Sefydlu cynllun grantiau i brynwyr tai tro cyntaf, er mwyn cynorthwyo i bobl aros yn eu cymunedau.

  1. Rhoi’r hawl i awdurdodau lleol godi treth o 200% ar ail gartrefi.

  1. Llunio strategaeth dai sydd yn rhoi'r pwyslais ar adnewyddu'r stoc tai sy’n bodoli’n barod a chyllido ar gyfer hyn, fel modd i wneud defnydd o’r 26,000 o dai gwag hirdymor ledled y wlad.

  1. Sicrhau hawliau cymunedau i ymwneud â'r broses gynllunio a rhoi hawl i gymunedau a grwpiau apelio ceisiadau cynllunio.

  1. Sefydlu “Arolygiaeth Gynllunio (Planning Inspectorate)” i Gymru fel corff gwbl annibynnol, corff sydd yn gyfrifol am apeliadau ac archwiliadau i mewn i ddatblygiadau cynllunio, a sicrhau rheolaeth ddemocrataidd ohono.

  1. Cydnabyddir cyfraniad y gymuned amaethyddol i'r Gymraeg a’r angen i’r broses gynllunio gydnabod pwysigrwydd y diwydiant amaeth. Dylid bod yn fwy rhagweithiol wrth ddenu pobl ifanc i mewn i’r diwydiant amaeth gan gynnwys rhoi amodau wrth y taliad sengl a fyddai'n ei gwneud yn fanteisiol i ffermwyr hŷn gydweithio gyda phartneriaid ifanc.  

TRI: IAITH

Y Gymraeg yw priod iaith Cymru. Dylid sicrhau bod dwyieithrwydd yn gweithio o blaid y Gymraeg bob tro. Credwn fod y Gymraeg yn sgil addysg hanfodol i bawb sydd eisiau byw a gweithio yng Nghymru ac na ddylid amddifadu unrhyw ddisgybl rhag dysgu’r sgil arbennig hwn sydd hefyd yn drysor cenedl.

  1. Adolygiad cyflawn o holl wariant y llywodraeth, gan gorff annibynnol fel Comisiynydd y Gymraeg, ac asesu perthynas y gwariant hwnnw â’r Gymraeg - sef mesur ôl-troed ieithyddol y gwariant. O ystyried y twf sydd wedi bod yn nifer y siaradwyr Basgeg mewn cyfrifiadau ers 1991, dylid cynyddu’r adnoddau a roddir i hyrwyddo’r Gymraeg i lefelau’r wlad honno, sef pedair gwaith cymaint â’r gwariant presennol yng Nghymru.

  1. Targedu siaradwyr Cymraeg yn eu harddegau fel grŵp allweddol i ddyfodol y Gymraeg gan gynnwys gynyddu’n sylweddol y buddsoddiad mewn gwasanaethau ieuenctid, yn arbennig gwasanaethau chwaraeon a diwylliannol. Adolygu gwariant Cyngor y Celfyddydau, a'r Cyngor Chwaraeon gan arall-gyfeirio i sicrhau cynnydd sylweddol yn y gyllideb ar gyfer y grŵp targed yma.

  1. Cefnogi cymunedau i gynnal cyfrifiadau cymunedol eu hunain er mwyn asesu cyflwr y Gymraeg a llunio argymhellion ar gyfer ei chryfhau gan gychwyn ar hyn yn y cymunedau gyda'r canrannau uchaf o siaradwyr Cymraeg ar hyn o bryd. Gweithredu er mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn iaith swyddogol a gweinyddol bywyd cyhoeddus yn y gymuned a chynnig cymorth i'r sector breifat i gyflawni yn yr un modd.

  1. Llunio strategaeth a chynllun gweithredu unigol i ddiogelu ac i hyrwyddo'r Gymraeg mewn nifer penodol o ardaloedd ledled Cymru gydag adolygiad yn flynyddol o'r sefyllfa lle gwelwyd cwymp o 5% neu fwy yng nghanran y siaradwyr Cymraeg.

  1. Targedu 6-10 o ardaloedd fel Ardaloedd Adfywio a Datblygu’r Gymraeg a llunio cynlluniau iaith cynhwysfawr i gynnal ac i ddatblygu twf ieithyddol, cymdeithasol ac economaidd.

  1. Llywodraeth Cymru i lansio ymgyrch cenedlaethol dwys i ddarbwyllo mwy o rieni plant blynyddoedd cynnar i ddewis addysg Gymraeg – e.e. cynyddu'n sylweddol y gyllideb ar gyfer cynlluniau megis 'Twf' a phwysleisio mai un o'r ffyrdd mwyaf amlwg o godi safonau llythrennedd a rhifedd yw trwy ehangu addysg ddwyieithog.

  1. Dylid gweithredu Safonau Iaith cryf a chynhwysfawr er mwyn cynyddu y nifer o swyddi Cymraeg a sefydlu hawliau i bobl Cymru allu defnyddio'r Gymraeg ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol gan normaleiddio'r Gymraeg ym mhob ran o fywyd. Trwy’r safonau, dylid sefydlu hawliau clir i bobl ar lawr gwlad, a fydd yn cynnwys yr hawl i weithgareddau hamdden fel gwersi nofio i blant yn y Gymraeg, yr hawl i weithwyr ddysgu'r Gymraeg a'i defnyddio yn y gweithle, a'r hawl i gleifion dderbyn gofal iechyd yn yr iaith.

  1. Dylai pob awdurdod lleol gynnal ymchwil ar unwaith i fesur llif a chylchrediad ariannol gwahanol ardaloedd. Byddai cynnal ymchwil o’r fath yn arwain at well dealltwriaeth o sut yn union mae eu gwariant a’u cymorthdaliadau yn effeithio ar lewyrch ein cymunedau. Er enghraifft, i ba raddau y mae’r budd o wariant cyhoeddus yn llifo allan, yn hytrach na chylchredeg yn y gymuned, a hynny er mwyn ystyried pa gorff neu gwmni sy’n derbyn arian cyhoeddus. Yn yr un modd, dylai cyrff dylanwadol, fel prifysgolion, ysbytai ac awdurdodau lleol, gynnal awdit manwl i ddarganfod i ba raddau y mae eu polisïau presennol, o ran stocio, prynu a chontractio, yn cefnogi'r economi leol gan lunio strategaeth er mwyn gwneud defnydd o gynhyrchwyr a gwasanaethau lleol. Lle mae ffigyrau yn bodoli yn barod, dylid mynd ati i weithredu arnynt yn syth.

  1. Dylid grymuso cymunedau i allu rheoli eu bywydau hwy eu hunain, gan gefnogi datganoli rhagor o rymoedd i gynghorau cymuned megis rheolaeth dros y broses gynllunio. Dylid cyflwyno math o ddemocratiaeth cyfranogol i’r lefel honno o lywodraeth.  Yn y cyfamser, galwn ar i gynghorau cymunedau asesu cyflwr y Gymraeg yn eu cymunedau er mwyn paratoi ar gyfer trosglwyddo rhagor o bŵerau iddynt.

  1. Dylid sefydlu darparwr newydd amlgyfryngol a fyddai’n ehangu’r gynulleidfa sydd yn gwrando, gwylio a defnyddio’u Cymraeg, a darparu rhwydwaith cenedlaethol Cymraeg gan fanteisio ar gydgyfeiriant technolegol yn cynnig platfform i brosiectau bro a chymunedol. Yn fwy na darlledwr un​ffordd traddodiadol, ei bwrpas, heb os, fyddai cryfhau’r Gymraeg a’i chymunedau.

PEDWAR: ADDYSG

  1. Galwn ar y Llywodraeth i ddatgan yn syth fod y Gymraeg yn perthyn i bawb yng Nghymru ac mai methiant addysgol yw amddifadu unrhyw un o'r sgil hanfodol o fedru cyfathrebu a thrafod ei waith yn Gymraeg. Ni ddylid gosod unrhyw rai dan anfantais felly yn y Gymru gyfoes, a galwn am lunio amserlen i sicrhau fod pawb yn ennill y sgil o rhugledd yn y Gymraeg.

  1. Dylid datgan yn syth fod bwriad i derfynu "Cymraeg ail iaith" a sicrhau'n hytrach fod pob disgybl yn astudio "Cymraeg" gan ymgyrraedd at wahanol raddau o hyfedredd . Galwn am symud yn syth tuag at drefn lle bydd pob disgybl yn derbyn cyfran o'i h/addysg trwy gyfrwng y Gymraeg fel bod ganddi/o'r gallu i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn ogystal, dylid sicrhau cyfleoedd i ddisgyblion archwilio eu hunaniaeth ieithyddol bersonol yn ogystal â’u profiad o’r byd a’r gymuned o’u cwmpas. Cyfeiriwn at "Addysg Bro" ar lefel cynradd ac at Addysg Gorfforol fel meysydd lle gellid gwneud cynnydd yn syth. Cydnabyddwn fod y ddelfryd hon yn bell o'r drefn bresennol, ac felly galwn am sefydlu meini prawf cenedlaethol am "Gontinwwm Addysg Gymraeg" a methodoleg i sicrhau fod pob sefydliad addysgol yng Nghymru'n symud ar hyd y continwwm, er enghraifft, fod yr ardaloedd hynny lle mae addysg gynradd Gymraeg yn norm yn sicrhau dilyniant i'r sector uwchradd ac ôl-​16, fod ysgolion uwchradd 2b yn symud tuag at fod yn ysgolion 2a, a bod pob ysgol yn dechrau cyflwyno rhyw ran o'r cwricwlwm trwy gyfrwng y Gymraeg. Dylid cynllunio ar gyfer adnoddau addysgol perthnasol i wireddu’r datblygiadau hyn gyda sylw arbennig at gyrsiau galwedigaethol.

  1. Dylid sicrhau fod pob myfyriwr sydd tan hyfforddiant i fod yn athro yn derbyn cwrs dwys yn ei flwyddyn gyntaf i'w alluogi i weithredu trwy gyfrwng y Gymraeg, a bod cynyddu'n ddirfawr cyfnodau sabothol i athrawon presennol i'w hyfforddi i weithredu trwy gyfrwng y Gymraeg, a bod y gallu hwn hefyd yn dod yn sylfaenol i bob cymwyster NVQ o ran addysg feithrin. Disgwyliwn ddadansoddiad blynyddol o’r cynnydd yn y gweithlu sy’n alluog i addysgu’n Gymraeg – a hynny ar bob lefel (o’r blynyddoedd cynnar hyd at addysg uwch) ac ym mhob maes (yn cynnwys cynorthwywyr dosbarth, staff atodol, technegwyr a staff cwmnïau sy’n derbyn cytundebau).

  1. Galwn am chwyldroi maes Cymraeg i Oedolion gan gynnwys rhoi pwyslais ar gyflawni amcanion penodol, fel:

    1. Hyfforddi pobl i gyflawni eu gwaith trwy gyfrwng y Gymraeg mewn meysydd megis – iechyd, gweinyddiaeth gyhoeddus, gwasanaethau ieuenctid.

    2. Cefnogi rhieni sy'n dewis addysg Gymraeg i'w plant

    3. Galluogi pobl i gyfranogi'n llawn o fywyd cymunedau Cymraeg, ac adeiladu ar yr arferion gorau.

  1. Dylid datblygu strategaeth i sicrhau fod ysgolion yn adnoddau i Gymreigio eu cymunedau ​ trwy eu cynnal mewn cymunedau bregus a thrwy bontio rhwng addysg a'r gymuned. Gellir yn syth sefydlu cronfa i brynu “asedau cymunedol allweddol” i gyflwyno ystod o wasanaethau mewn cymunedau lle bo’r Gymraeg yn gyfrwng cyfathrebu cyffredinol.

  1. Cynyddu swyddogaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol o ran hyfforddiant athrawon ac mewn colegau ôl-16, a sianelu cyfran uwch o gyllid y meysydd hyn trwyddo.

  1. Dylid newid y polisi ffïoedd myfyrwyr presennol a chynnig mantais ariannol i fyfyrwyr addysg uwch o Gymru sydd yn astudio yng Nghymru yn unig, yn hytrach na rhoi cymorthdal i'r rhai sydd yn dewis astudio tu hwnt i Gymru. Byddai polisi o'r fath yn lleihau allfudo, sef y prif ffactor sydd yn arwain at y gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn y wlad. Dylid creu rhagor o gytundebau hyfforddiant mewn sectorau gwaith pwysig a fydd yn cadw gweithwyr yng Nghymru, megis gweithwyr addysg ac iechyd, fel bod modd cadw sgiliau yng Nghymru a chadw siaradwyr Cymraeg yn y wlad.

post@cymdeithas.org 01970 624501

Gorffennaf 2013

Lawrlwytho Maniffesto Byw (Gorffennaf 2013) fel [PDF]

Lawrlwytho y fersiwn gwreiddiol (cyn yr ymgynghoriad) fel [PDF]

FERSIWN SAESNEG / ENGLISH VERSION