Maniffesto Byw - Cynllun Gweithredu dros Iaith, Gwaith a Chymuned

Cyfrannwch i'r drafodaeth trwy ebostio post@cymdeithas.org, ffonio 01970 624501 neu drydar gyda'r hashnod #maniffestobyw

Maniffesto byw ar gyfer cymunedau byw

Cynllun Gweithredu dros Iaith, Gwaith a Chymuned

Trafodaeth gyhoeddus ar draws cymunedau Cymru ynglŷn â’r blaenoriaethau i gynnal a datblygu’r Gymraeg ym mhob rhan o Gymru.

Nid oes amheuaeth bod canlyniadau’r Cyfrifiad yn amlygu’r argyfwng sydd yn wynebu’r Gymraeg. Bu gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg ym mhob rhan o Gymru. Bu’r gostyngiad mwyaf yn yr ardaloedd lle mae'r Gymraeg ar ei chryfaf.

Credwn bod modd newid tynged y Gymraeg gydag ewyllys wleidyddol ac ymgyrchu cadarnhaol a chyfranogol. Yn y ddogfen hon, rydyn ni’n amlinellu rhaglen waith sy’n ddechreubwynt ar gyfer newid tynged yr iaith - a gwrth-droi’r dirywiad dros y ddegawd a fu - yn ein cymunedau ac yn genedlaethol.

Fodd bynnag, nid ydym fel Cymdeithas yn honni mai ni sydd piau’r holl atebion (yn unol â’r dull di-drais o ymgyrchu), felly byddwn yn annog cymunedau ac unigolion i ychwanegu at y syniadau hyn ar ein gwefan a thrwy e-bostio post@cymdeithas.org. Galwn ar bobl Cymru i rymuso eu hunain ynghyd â’r gymuned y maent yn rhan ohoni ac i ddatgan eu bod eisiau byw yn Gymraeg.

GWAITH

Cred Cymdeithas yr Iaith Gymraeg fod angen i’r Gymraeg fod yn iaith economi os yw’r iaith i gael ei defnyddio yn ein cymunedau. Mae tlodi economaidd Cymru yn un o’r ffactorau sy’n arwain at allfudiad miloedd o Gymry Cymraeg bob blwyddyn.

  • Llywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol a Sefydliadau Cenedlaethol eraill i sicrhau bod y swyddi sydd ar gael mewn swyddfeydd rhanbarthol yn cynnwys amrediad o gyfleoedd gwaith ac amrediad o gyflogau. Llywodraeth Cymru, pleidiau gwleidyddol, undebau a sefydliadau Cenedlaethol i lunio strategaeth economaidd sydd yn rhoi pwyslais ar ddatganoli swyddi oddi mewn i Gymru e.e. Cynllun Datganoli Swyddi Llywodraeth Cymru – cadarnhau a chryfhau swyddfeydd Caerfyrddin, Aberystwyth, Caernarfon, Cyffordd Llandudno. Galw ar sefydliadau cyhoeddus eraill i wneud yn yr un modd – gan gynnwys mudiadau yn y trydydd sector sy'n derbyn arian cyhoeddus a sefydliadau cyfryngol fel S4C. Dylai'r llywodraeth gynnig cefnogaeth i gwmnїau symud o ardaloedd twf i lefydd eraill yng Nghymru, ac fel rhan o'r cytundeb cefnogaeth dylsent sicrhau fod canran o’r gweithlu â sgiliau cyfathrebu Cymraeg.

  • Oherwydd diffyg cyfalaf mewn ardaloedd tlawd, a diffyg rhwydweithiau i gefnogi mentergarwch, dylid cynnig mwy o gefnogaeth (yn ariannol a thechnegol) i'r sector cydweithredol, gyda thargedau pendant i greu swyddi yn yr ardaloedd lle mae’r Gymraeg ar ei chryfaf.

  • Newid cylch gorchwyl y Mentrau Iaith i fod yn "Mentrau Iaith a Gwaith" gyda chyfrifoldeb penodol a chyllideb i hyrwyddo mentergarwch trwy gyfrwng y Gymraeg a hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg ym myd busnes. Adolygu cylch gwaith rhai o'r mentrau gan adlewyrchu'r enghreifftiau o arfer gorau yn y maes. Sicrhau cydlynedd llawer iawn mwy effeithiol rhwng y mentrau yn genedlaethol trwy apwyntio Cyfarwyddwr a Phwyllgor Llywio Cenedlaethol.

  • Sefydlu Marchnad Llafur Cyfrwng Cymraeg – dylid mynd ati ar frys i fonitro yr angen am weithlu cyfrwng Cymraeg mewn sectorau a lleoliadau ar draws Cymru a chynllunio i ateb y galw am weithlu â sgiliau iaith Gymraeg gan gynnwys sicrhau cynllun hyfforddiant uchelgeisiol Cymraeg yn y gweithle. Dylid dechrau gyda’r cyflogwyr mawr lle mae angen y ddarpariaeth, megis y gwasanaeth iechyd, gwasanaethau cymdeithasol ac addysg uwch ac addysg bellach.

  • Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, y gwasanaeth iechyd a gwasanaethau cyhoeddus eraill i lunio cynlluniau gweithredu tymor byr fel man cychwyn i ddatblygu ac i hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg yn y gweithle. Dylai hyn gynnwys sicrhau bod mwy o swyddi yn cael eu hysbysebu lle mae'r Gymraeg yn hanfodol, mwy o gyfleoedd hyfforddiant mewn swydd i loywi'r Gymraeg ac i ddysgu Cymraeg a chyrsiau ymwybyddiaeth iaith draws sector er mwyn datblygu dealltwriaeth ac ennill cefnogaeth i'r cynlluniau yma ymysg y rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg. Cydweithio gyda Undebau Llafur i lunio rhaglen gyfatebol ymysg yr undebau.

  • Cefnogi a chydweithio gydag undebau llafur i ddiogelu swyddi ac amodau gwaith yn y sector cyhoeddus a datblygu dealltwriaeth ymysg y cyhoedd o bwysigrwydd y swyddi hyn yn yr ardaloedd gwledig a'r ardaloedd Cymraeg yn arbennig.

  • Polisi caffaeliad pob corff a ariennir yn gyhoeddus yng Nghymru i roi blaenoriaeth i gwmnïau o'r ardal mae'r gwaith yn cael ei wneud, ac i gwmnïau o Gymru dros gwmnïau o bell - er mwyn lleihau'r pellter a deithir a sicrhau bod swyddi yn cael eu creu yn ein cymunedau. Dylid sicrhau yn ogystal bod mwy o gyfleoedd i gwmnïau bychain a chanolig eu maint i dderbyn tendrau yn ogystal â chwmnïau mawr. Ymhob achos, dylid sicrhau bod darpariaeth Gymraeg cwmni sy'n derbyn tendr cystal neu'n well nag un y corff cyhoeddus sy'n talu am y gwaith.

  • Llunio cynllun gweithredu i annog cyflogwyr Cymru, gan gynnwys y sector cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector i hyrwyddo gwerth masnachol defnyddio'r Gymraeg. Annog y cyhoedd i gefnogi busnesau a gwasanaethau sy'n hyrwyddo'r Gymraeg ac yn gwneud ymdrech i ddefnyddio'r Gymraeg.

TAI A CHYNLLUNIO

Mae diffyg Llywodraeth Cymru ers datganoli yn y maes tai a chynllunio wedi golygu fod strategaethau iaith Gymraeg ar draws Cymru wedi cael eu tanseilio gan ddatblygiadau tai. Rydym yn parhau i aros am y Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 20 newydd. Datgelodd y Gymdeithas mai dim ond tri awdurdod lleol sydd wedi cynnal asesiad effaith datblygiadau ar y Gymraeg dros y 2 flynedd ddiwethaf, ac mai dim ond 16 asesiad a wnaed o 60,000 o geisiadau cynllunio (0.03%). Ymhellach, profwyd diffyg ymrwymiad y llywodraeth ym mhapur gwyn y Bil Cynaliadwyedd oherwydd ni roddwyd ystyriaeth i’r Gymraeg fel rhan o’r agenda cymunedau cynaliadwy.

  • Dylid cyhoeddi fersiwn diwygiedig TAN20 cyn gynted â phosib. Dylai cynghorau yn ogystal â datblygwyr gynnal Asesiadau Effaith Iaith a rhoi sail statudol i hyn gan adolygu’r sefyllfa yn flynyddol i sicrhau y gweithredir hyn. Galwn ar Gomisiynydd y Gymraeg i adolygu pob Cynllun Datblygu arfaethedig neu sydd ar waith er mwyn asesu’r effaith ar y Gymraeg gan na wneir hynny’n ddigonol eisoes gan TAN20.

  • Pob awdurdod cynllunio i adolygu eu cynlluniau ardal, gan seilio'r cynlluniau ar anghenion lleol ac ar gryfhau cymunedau a safle'r Gymraeg, gan ddileu cynlluniau presennol a chreu rhai newydd yn eu lle pan fo angen. Dylent adolygu’r sefyllfa yn flynyddol.

  • Sicrhau fod y Gymraeg yn ganolog i’r Biliau Cynaliadwyedd a Cynllunio newydd trwy, ymysg pethau eraill, gynnwys lles y Gymraeg fel priod iaith Cymru fel rhan o’r diffiniad statudol o ddatblygu cynaliadwy a gosod asesiadau effaith iaith datblygiadau ar sail statudol gynradd.

  • Llunio a gweithredu mesur i asesu'r angen lleol am dai cyn datblygu; sicrhau'r hawl i gartref am bris teg (i'w rentu neu i'w brynu) yng nghymuned y person sy'n rhentu neu brynu; blaenoriaeth i bobl leol drwy'r system bwyntiau tai cymdeithasol; system gynllunio sydd yn gweithio er budd y gymuned; sicrhau ailasesu caniatâd cynllunio blaenorol.

  • Sefydlu cynllun grantiau i brynwyr tai tro cyntaf ac ariannu hyn trwy rhoi’r hawl i gynghorau i godi treth o 200% ar ail gartrefi.

  • Llunio strategaeth dai sydd yn rhoi'r pwyslais ar adnewyddu'r stoc tai sy’n bodoli’n barod a chyllido ar gyfer hyn, fel modd i wneud defnydd o’r 26,000 o dai gwag hirdymor ledled y wlad.

  • Sicrhau hawliau cymunedau i ymwneud â'r broses gynllunio a rhoi hawl i gymunedau a grwpiau apelio ceisiadau cynllunio.

  • Datganoli “Yr Arolygiaeth Gynllunio (Planning Inspectorate)” i Gymru, corff sydd yn gyfrifol am apeliadau a archwiliadau i mewn i ddatblygiadau cynllunio, a sicrhau rheolaeth ddemocrataidd ohono.

IAITH

Y Gymraeg yw priod iaith Cymru. Dylid sicrhau fod dwyieithrwydd yn gweithio o blaid y Gymraeg bob tro. Credwn fod y Gymraeg yn sgil addysg hanfodol i bawb sydd eisiau byw a gweithio yng Nghymru ac ni ddylid amddifadu unrhyw ddisgybl rhag dysgu’r sgil arbennig hwn sydd hefyd yn drysor cenedl.

  • Adolygiad cyflawn o holl wariant y llywodraeth, gan gorff annibynnol fel Comisiynydd y Gymraeg, ac asesu perthynas y gwariant hwnnw â’r iaith Gymraeg - sef mesur ôl-troed ieithyddol y gwariant. O ystyried y twf sydd wedi bod yn nifer siaradwyr Basgeg mewn cyfrifiadau ers 1991, dylid cynyddu’r adnoddau a roddir i hyrwyddo’r iaith Gymraeg i lefelau’r wlad honno, sef pedrwbl y gwariant presennol yng Nghymru.

  • Targedu siaradwyr Cymraeg yn eu harddegau fel grŵp allweddol i ddyfodol y Gymraeg gan gynnwys cynyddu’n sylweddol y buddsoddiad mewn gwasanaethau ieuenctid, yn arbennig gwasanaethau chwaraeon a diwylliannol. Adolygu gwariant Cyngor y Celfyddydau, a'r Cyngor Chwaraeon gan arall-gyfeirio i sicrhau cynnydd sylweddol yn y gyllideb ar gyfer y grŵp targed yma.

  • Cefnogi cymunedau i gynnal cyfrifiadau cymunedol eu hunain er mwyn asesu cyflwr y Gymraeg a llunio argymhellion ar gyfer ei chryfhau gan gychwyn ar hyn yn y cymunedau gyda'r canrannau uchaf o siaradwyr Cymraeg ar hyn o bryd. Gweithredu er mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn iaith swyddogol a gweinyddol bywyd cyhoeddus yn y gymuned a chynnig cymorth i'r sector breifat i gyflawni yn yr un modd.

  • Llunio strategaeth a chynllun gweithredu unigol i ddiogelu ac i hyrwyddo'r Gymraeg mewn nifer penodol o ardaloedd ar draws Cymru gyda adolygiad yn flynyddol o'r sefyllfa lle gwelwyd cwymp o 5% neu mwy yng nghanran y siaradwyr Cymraeg.

  • Targedu 6-10 o ardaloedd fel Ardaloedd Adfywio a Datblygu’r Gymraeg a llunio cynlluniau iaith cynhwysfawr i gynnal ac i ddatblygu twf ieithyddol, cymdeithasol ac economaidd.

  • Llywodraeth Cymru i lansio ymgyrch cenedlaethol dwys i ddarbwyllo mwy o rieni plant blynyddoedd cynnar i ddewis addysg Gymraeg – e.e. cynyddu'n sylweddol y gyllideb ar gyfer cynlluniau megis 'Twf' a phwysleisio mai un o'r ffyrdd mwyaf amlwg o godi safonau llythrennedd a rhifedd yw trwy ehangu addysg ddwyieithog.

  • Sicrhau bod pob plentyn yn gadael yr ysgol yn rhugl yn y Gymraeg: ni ddylid amddifadu’r un plentyn o’i hawl i fod yn rhugl yn Gymraeg fel dinesydd Cymru. Felly, mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru ac Awdurdodau Addysg weithredu cynlluniau radical i chwyldroi dysgu Cymraeg fel ail-iaith yn yr ysgolion, gan anelu at sicrhau bod pob disgybl yng Nghymru yn gadael ysgol yn rhugl yn y Gymraeg. Mynnu bod y Cynlluniau Strategol Addysg Gymraeg yn cynnwys cynlluniau manwl i sicrhau cynnydd blynyddol yn y nifer sy’n trosglwyddo i’r sector iaith gyntaf gyda’r pwyslais ar ddilyniant iaith yn hytrach na chynnal dwy ffrwd iaith. Sicrhau fod addysg am hanes gymdeithasol yr iaith Gymraeg yn cael ei ddysgu i bob disgybl yng Nghymru i godi ymwybyddiaeth ynghylch hanes y Gymraeg ac i fod yn sail i ddysgu’r iaith.

  • Galw ar Awdurdodau Addysg i lunio Strategaethau addysg a Chynlluniau Gweithredu sy'n rhoi pwyslais ar Addysg Gydol Oes trwy gyfrwng y Gymraeg a dilyniant mewn addysg Gymraeg Cynradd, Uwchradd, ôl-16/addysg bellach/addysg uwch gan anelu at sicrhau lleihad sylweddol yn y tymor byr yn y nifer sy'n trosglwyddo o addysg cynradd Cymraeg iaith 1af i addysg Uwchradd ail-iaith.

  • Cynyddu’r buddsoddiad a’r ddarpariaeth Gymraeg yn y sector ôl-16, gan sicrhau bod y gwariant yn cynyddu’n sylweddol yn y sector, yn arbennig yn y sector addysg bellach a'r sector addysg oedolion yn y gymuned.

  • Cyflwyno a phasio’r safonau fel a luniwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg er mwyn cynyddu’r nifer o swyddi Cymraeg a phrif-ffrydio’r Gymraeg ar draws sectorau cyhoeddus, gwirfoddol a phreifat yng Nghymru

post@cymdeithas.org 01970 624501

www.cymdeithas.org

15fed Rhagfyr 2012

Lawrlwytho Maniffesto Byw fel [PDF]