Adroddiad Hawliau Iaith: 'ffôl' diddymu Comisiynydd y Gymraeg

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi dweud bod adroddiad Comisiynydd y Gymraeg a gyhoeddwyd heddiw yn dystiolaeth bellach bod cynlluniau'r Llywodraeth i ddiddymu'r swydd yn 'ffôl'.  

Dywedodd Osian Rhys ar ran Cymdeithas yr Iaith:  

"Mae'r adroddiad hwn yn dystiolaeth bellach bod Papur Gwyn y Llywodraeth, sy'n cynnig gwanhau rheoleiddio, gwanhau hawliau cwyno pobl a diddymu'r Comisiynydd, yn gwbl ddiffygiol a heb ei seilio ar dystiolaeth. Does dim rhesymeg y tu ôl i gynlluniau'r Llywodraeth, a fyddai'n gam mawr yn ôl i hen system a fethodd. Wrth i'w Bapur Gwyn syrthio'n ddarnau, rydyn ni'n gweld y Gweinidog yn ymddwyn yn gynyddol anwadal ac yn sgrialu o gwmpas am syniadau newydd." 

"Drwy gael y Comisiynydd yn gweithredu'r Safonau, mae gwasanaethau Cymraeg yn dechrau gwella ac mae mwy o swyddi Cymraeg. Mae 'na wyth Comisiynydd Iaith ledled y byd ac, yng Nghymru, mae gyda ni Gomisiynwyr Plant, Pobl Hyn a Chenedlaethau'r Dyfodol. Felly pam diddymu Comisiynydd y Gymraeg? Byddai'n syniad ffôl tanseilio cyfundrefn sydd ddim ond wedi dechrau dod i rym ers deunaw mis."