Gwersi Nofio Cyngor Wrecsam: Pedwerydd Ymchwiliad Statudol yn Amlygu Diffygion Mesur y Gymraeg
26/02/2025 - 11:01
Mae adroddiad ymchwiliad Comisiynydd y Gymraeg i gŵyn am ddarpariaeth nofio Cyngor Wrecsam wedi dod i’r casgliad bod y Cyngor wedi methu ar sawl cyfri. Yn ôl Cymdeithas yr Iaith mae methiannau parhaus yn codi cwestiynau am ymrwymiad y Cyngor i’r Gymraeg ac am weithdrefnau Comisiynydd y Gymraeg.