Ateb Niwlog Rhodri ar fater Deddf Iaith

Rhodri MorganMae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg o'r farn fod y Blaid Lafur yn graddol newid ei thiwn ar gwestiwn Deddf Iaith. Mewn cyfarfod yn Ysgol Penweddig, Aberystwyth neithiwr (Nos Iau Chwefror 15) cafodd Rhodri Morgan ei holi gan aelodau'r Gymdeithas beth fyddai gan y Blaid Lafur i'w ddweud ar yr iaith Gymraeg yn ei Maniffesto ar gyfer Etholiadau'r Cynulliad.Pwyswch yma i weld fideo o'r digwyddiad...

Rhowch glec ar yr saeth isod i redeg y fideo:

Yn ei ateb fe ddywedodd Rhodri Morgan y byddai'r Blaid Lafur yn mynd ati i "gryfhau" hawliau'r unigolyn mewn perthynas â'r iaith. Ond yr oedd yn chwyrn yn erbyn ymestyn deddfweiaeth ieithyddol i'r sector breifat. Mynnai nad oedd hyn yn ymarferol bosibl gan mai "dim ond 20% o boblogaeth y wlad oedd yn siarad Cymraeg." Ofnai ymhellach y byddai rhoi mwy o bwysau ar y sector breifat yn achosi hollt ieithyddol yn y gymdeithas.Dywedodd Menna Machreth, aelod o Senedd Cymdeithas yr Iaith gafodd y cyfle i holi Rhodri Morgan:"Gan fod Rhodri Morgan wedi siarad yn chwyrn yn erbyn cryfhau Deddf Iaith yn y gorffennol mae'n amlwg fod rhywfaint o newid pwyslais wedi bod gan ein fod yn awr yn sôn am ei chryfhau. Ond ar yr un pryd ymddengys mai 'rhai' hawliau ieithyddol ychwannegol y mae am eu hildio i'r Cymry Cymraeg, ac y bydd y berthynas rhwng y ddwy gymdeithas ieithyddol yng Nghymru yn parhau yn anghfartal."Roedd ugain o aelodau Cymdeithas yr Iaith wedi ymgynnull y tu allan i Ysgol Penweddig yn Aberystwyth i groesawu Rhodri Morgan. Dywedodd Gwenno Teifi, trefnydd Cymdeithas yr Iaith yn Nyfed:"Wythnos yn ôl fe gyflwynodd Cymdeithas yr Iaith ddeiseb i'r Cynulliad Cenedlaethol yn galw am Ddeddf Iaith ac arni 10,000 o enwau. Daeth cynrychiolwyr o'r tair gwrth-blaid i'r cyflwyniad hwnnw ond nid oedd yno neb yn cynrychioli'r Blaid Lafur. Felly yr oeddem am gael gwybod gan Rhodri Morgan beth yn union fyddai safbwynt ei Blaid ar y pwnc hwn. Ofnaf mai digon niwlog oedd yr ateb, ond fe ymddengys ei fod wedi ildio rhwyfaint i'n safbwynt ni drwy ddweud y bydd Llafur yn mynd ati i gryfhau'r Ddeddf Iaith bresennol."