Caffi'n Costa'n ddrud i gymuned Aberystwyth

Costa Coffee AberyswythFe fydd aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn picedi Caffi Costa, Aberystwyth ddydd Llun 18/2/08, ar ddiwrnod ei agoriad, mewn protest oherwydd diffyg parch llwyr y cwmni at yr iaith Gymraeg a'r gymuned leol. Anwybyddwyd llythyr y Cyngor Tref a ofynodd i'r cwmni i gyflwyno arwyddion dwyieithog ac anwybyddwyd rheolau y Cyngor Sir a ddywed mai siopau yn unig sy'n cael agor ar stryd fawr Aberystwyth.

Fe fydd y biced yn cychwyn am 9am ac yn parhau tan 5pm, gyda siaradwyr yn annerch y picedwyr a thrigolion Aberystwyth am 12.30pm. Ymysg y siaradwyr bydd Geraint Edwards – Cymdeithas yr Iaith, Sue Mackenzie Grieve - Siop MG's a mwy.Dywed Sioned Haf, Swyddog Ymgyrchoedd Cenedlaethol Cymdeithas yr Iaith:" Mae cwmni Costa wedi anwybyddu llythyr Cyngor Tref Aberystwyth a ofynodd iddynt ddarparu arwyddion dwyieithog gan ddangos amarch llwyr i’n hiaith a’n diwylliant. Mae nifer o gwmnïau bach y dref sydd yn ennill dim ond ffracsiwn o’r hyn y mae cwmni Costa yn ei ennill wedi cefnogi’r llythyr yma a chyflwyno arwyddion dwyieithog. Mae'r achos yma yn amlygu'r angen am Ddeddf Iaith gynhwysfawr a fyddai'n gorfodi cwmnïau mawrion i fabwysiadu gwasanaeth dwyieithog."Mae'r protestwyr hefyd am dynnu sylw y cyhoedd at y ffaith fod cwmni Costa yn mewnforio nwyddau i'w caffis a ddim yn ddefnyddio cynnyrch lleol. Dywed Angharad Clwyd, Cadeirydd Rhanbarth Ceredigion o Gymdeithas yr Iaith:" Mae bron i holl gynnyrch Caffi Costa yn cynnwys y brechdanau, yn cael eu paratoi tu allan i'r ardal ac yn cael eu mewnforio. Mae hyn mewn cyferbyniad llwyr â mwyafrif o gaffis bach Aberystwyth sydd yn prynu cynnyrch lleol. Nid yw'r caffi yn cefnogi yr economi leol, ac mae'r mwyafrif mawr o'r elw felly yn mynd tu allan i'r ardal a thu allan i Gymru.Hefyd mae'r cwmni yn ymwybodol nad oes hawl cael caffis eistedd i fewn ar stryd fawr Aberystwyth ac eto maent wedi mynd ati i greu lle gyda 50 o seddau, sydd yn gwbwl groes i'r rheolau. Mae hyn yn dangos agwedd drahaus sydd yn cael ei amlygu ymhellach drwy eu bod wedi dwyn un o leins coffi Caffi MG's ac hyd yn oed un o'i staff.Mae'r cwmni yn brolio ei hethos Fasnach deg ar ei gwefan, ond yn anwybyddu tegwch i'r ardaloedd lleol lle y maent yn masnachu. Galwn ar bobl Aberystwyth a'r cylch i ddweud na wrth Caffi Costa ac i gefnogi eu caffis lleol."Cefndir:• Mae'r cwmni wedi cyflwyno cais cynllunio i'r Cyngor Sir sydd yn gofyn am newid defnydd o'r adeilad o A1 i cyfuniad o A1 a A3. A1 yw'r radd am siop (sydd yn caniatau gwerthu bwyd i fynd allan a nifer cyfyngedig o seddi), A3 yw'r radd am gaffi.• Derbyniodd y Cyngor y Cais cynllunio ar y 4ydd o Chwefror – y targed i brosesu ceisiadau yw 8 wythnos ond deallwn fod yna ol geisiadau ac y bydd y broses yn cymeryd tipyn hirach.• Y tebygolrwydd yw y bydd yr pwyllgor cynllunio yn gwrthod y cais yn unol a'u rheolau o wrthod caffis ar brif stryd Aberystwyth. (Mae nifer o fusnesau lleol wedi gofyn yn y gorffennol am ganiatad i agor caffi ar y brif stryd ond wedi cael eu gwrthod). Fe fydd y cwmni mwy na thebyg yn mynd a'r achos i apel at y Cynulliad ac yn y cyfamser yn parhau i fasnachu fel A3.• Mae'n anhebygol y bydd yr adran gynllunio yn rhoi Rhybudd Gorfodaeth i'r cwmni tra'n prosesu'r cais gan fod canllawiau'r Cynulliad yn nodi na ddylir rhoi Rhybudd Gorfodaeth os oes yna bosibiliad y caiff yr achos ei ganiatau