Croesawu symudiad at gwricwlwm Cymreig

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu'r datganiad interim gan yr Athro Donaldson a gyhoeddwyd heddiw, ac yn dweud fod yr egwyddorion a restrir yn cadarnhau'r ddadl dros sicrhau fod pob disgybl yn dod i allu cyfathrebu'n Gymraeg. Mewn llythyr at y Gweinidog Addysg Huw Lewis mae'r Athro Donaldson, a gomisiynwyd gan y llywodraeth i wneud adolygiad o'r cwricwlwm, yn rhestru'r egwyddorion a ddylent fod yn sail i gwricwlwm newydd.

Mewn ymateb, dywed llefarydd y Gymdeithas ar addysg Ffred Ffransis: "Er mwyn sicrhau fod y cwricwlwm yn 'ddilys', yn 'gynhwysol' ac yn 'uno'  - 3 o'r egwyddorion sylfaenol - dylai drosglwyddo i holl ddisgyblion Cymru'r sgil addysgol hanfodol o fedru gweithio a chyfathrebu yn Gymraeg a Saesneg. Golygai roi heibio derm dirmygus 'Cymraeg Ail Iaith' a gweithredu argymhellion Pwyllgor yr Athro Sioned Davies 'Un iaith i bawb'. Mae egwyddor 'grymuso' hefyd yn golygu y dylai'r cwricwlwm drosglwyddo gwybodaeth am faterion cymdeithasol pwysig fel y drefn gynllunio, patrymau cyflogaeth a diweithdra, oblygiadau mewnfudo ac allfudo ynghyd a dealltwriaeth am sut y gall pobl ddylanwadu ar bolisi cyhoeddus. Gall y cwricwlwm fod yn sylfaenol i'r ddemocratiaeth newydd yng Nghymru."